Mae myfyrwyr Prifysgol Caerdydd wedi pleidleisio o blaid creu Swyddog y Gymraeg llawn amser o fewn Undeb y Myfyrwyr.

Mi fydd y canlyniad yn rhoi pwysau ar Fwrdd yr Ymddiriedolwyr sy’n rhedeg yr Undeb, i greu swydd llawn amser i gynrychioli Cymry Cymraeg y brifysgol, gan ddangos bod y “galw yn gynyddol”, meddai ymgyrchwyr.

Cafodd canlyniad y bleidlais o blaid creu’r swydd newydd ei gyhoeddi yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol yr Undeb neithiwr (25 Tachwedd).

Mae gan brifysgolion Aberystwyth, Bangor ac Abertawe Swyddogion Cymraeg llawn amser sy’n gweithio i undebau’r myfyrwyr.

Ar hyn o bryd, swyddog rhan amser, gwirfoddol sydd yng Nghaerdydd, er bod galwadau wedi bod ers blynyddoedd am greu swyddog llawn amser.

Annell Dyfri, y swyddog presennol, wnaeth y cynnig yn y Cyfarfod Blynyddol neithiwr, a dywedodd wrth golwg360 bod “mwy a mwy o fyfyrwyr Cymraeg yn dod i Brifysgol Caerdydd bob blwyddyn, felly mae angen inni… gefnogi nhw, a sicrhau llais iddyn nhw”.

Dywedodd Deio Owen, a wnaeth eilio’r cynnig, bod y “cyfrifoldeb nawr yn gorwedd gyda bwrdd yr ymddiriedolwyr”.

“Llwyddiant i’r Gymraeg yng Nghaerdydd!”

Cefndir

Dyma’r eildro mewn tair blynedd i fyfyrwyr bleidleisio o blaid creu rôl ar gyfer Swyddog y Gymraeg yng Nghaerdydd.

Cafodd cynnig ei basio yn 2018, a fyddai ym marn y cynigwyr, wedi arwain at benodi swyddog llawn amser i gynrychioli myfyrwyr Cymraeg Caerdydd.

Ond yn ôl Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd ar y pryd, roedd y cynnig yn galw ar Fwrdd yr Ymddiriedolwyr i ystyried creu’r swydd, a dim mwy.

Penderfynodd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr nad oedd hi’n ymarferol creu swyddog ychwanegol ar gyfer y Gymraeg, ond y byddai’n rhesymol cynnwys Swyddog y Gymraeg fel tîm o’r saith sy’n bodoli ar y funud.

Gwrthodwyd hynny mewn Cyfarfod Cyffredinol ym mis Tachwedd 2019, ac roedd disgwyl i’r Undeb gynnal adolygiad manwl o’r sefyllfa.

Yn ôl yr Undeb, mae’r pandemig wedi’u hatal rhag cadw at yr amserlen ar gyfer ymgymryd â’r adolygiad, ond fe ddylai fod yn barod ar gyfer Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Tachwedd 2022.

“Problem ehangach”

Dywedodd Annell Dyfri, Swyddog rhan amser y Gymraeg, wrth golwg360 fod y “broblem dal yr un fath” ag yr oedd hi yn 2018, pan bleidleisiodd myfyrwyr o blaid creu Swyddog Cymraeg llawn amser y tro diwethaf.

“Dw i’n credu bod yna ymdeimlad cryf ymysg myfyrwyr Cymraeg a di-Gymraeg bod angen newid, ac mae yna alw mawr am y rôl Swyddog Cymraeg llawn amser,” meddai Annell Dyfri wrth esbonio pam ei bod hi wedi penderfynu gwneud y cynnig eleni.

“Felly, rhaid parhau i frwydro nes rydyn ni’n cael be rydyn ni isie.

“Oherwydd fy mod i yn y sefyllfa, wedi cael fy ethol fel swyddog rhan amser y Gymraeg, dw i’n ymwybodol o’r baich yma sydd arna i yn trio cydbwyso hyn gyda fy astudiaethau, a’r galw enfawr yma er mwyn cael cynrychiolaeth deg o fewn yr Undeb.”

Dywedodd Annell Dyfri ei bod hi’n “gobeithio” y bydd yr adolygiad sydd ar y gweill gan Fwrdd Ymddiriedolwyr yr undeb yn parhau.

“Roedd neithiwr yn brofiad anhygoel, roedd e mor emosiynol, roedd pobol ar eu traed yn cymeradwyo, roedd y gymeradwyaeth yn mynd ymlaen am hydoedd ar ôl i fi orffen yr araith, roedd pobol yn gweiddi,” meddai.

“Dw i’n credu bod y myfyrwyr i gyd wedi uno, y Cymry a’r di-Gymraeg, yn dangos bod hon yn broblem ehangach nag oedd yr Undeb yn sylweddoli.

“Mae’r myfyrwyr wedi siarad, sa i’n meddwl y gwnaeth neb wrthwynebu’r cynnig, ac mae hwnna’n dangos cymaint mae e’n poeni ni fel myfyrwyr.

“Mae e’n fater o gynrychiolaeth a chynhwysiant, ac mae angen bod ein llais ni’n cael ei glywed.”

“Dechrau cael digon”

Y cam nesaf yw bod y cynnig yn mynd o flaen Bwrdd yr Ymddiriedolwyr unwaith eto, ac mae’r bleidlais hon yn dangos “bod myfyrwyr yn dechrau cael digon”, meddai Annell Dyfri.

“Os yw e’n mynd o flaen y Bwrdd eto, mae’n dangos bod y galw yn gynyddol, bod y galw dal yma,” meddai Annell Dyfri.

“Mae o hefyd yn dangos, falle, bod yr adolygiad a’r argymhellion maen nhw wedi’u rhoi i ni ddim yn ddigonol, a bod myfyrwyr wedi dangos [hynny] eto, a’u bod nhw’n dechrau cael digon nawr, dw i’n credu, bod y Gymraeg yn cael ei thrin yn wahanol i’r Saesneg.

“Felly mae e’n fater o gydraddoldeb yn fwy na dim byd, a dw i’n credu ei bod hi’n hollbwysig bod yna rywun o fewn yr Undeb sy’n cefnogi llais myfyrwyr Cymraeg, y dysgwyr ac ati, a hefyd rhywun sydd yn deall ni, ac yn gallu cefnogi ni, fel sy’n digwydd yn barod mewn rhai o brifysgolion eraill Cymru.”

Fe wnaeth Llywydd Undeb y Myfyrwyr siarad yn erbyn y cynnig, a wnaeth “gynhyrfu’r dyfroedd bach yn fwy” gan olygu bod y myfyrwyr, o bosib, yn “fwy unedig”, meddai Annell Dyfri.

Galwadau o’r newydd am Swyddog Llawn Amser i gynrychioli myfyrwyr Cymraeg Prifysgol Caerdydd

“Pam bod prifysgol fwyaf Cymru, prifysgol sydd ym mhrifddinas Cymru, ddim yn sicrhau bod y Gymraeg yn cael yr un sylw?”