Mae galwadau o’r newydd am Swyddog Cymraeg Llawn Amser ar gyfer Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, fel sydd i gael mewn prifysgolion eraill yng Nghymru.
“Mae mwy a mwy o fyfyrwyr Cymraeg yn dod i Brifysgol Caerdydd bob blwyddyn, felly mae angen inni… gefnogi nhw, a sicrhau llais iddyn nhw,” meddai Annell Dyfri, sy’n Swyddog y Gymraeg gwirfoddol yn yr undeb ac yn gorfod cyfuno’r gwaith gyda’i hastudiaethau ar hyn o bryd.
Fe fydd cynnig yn mynd gerbron Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yr Undeb yr wythnos nesaf yn galw am greu Swyddog y Gymraeg Llawn Amser.
Cafodd cynnig ei basio yn 2018, a fyddai ym marn y cynigwyr, wedi arwain at benodi swyddog llawn amser i gynrychioli myfyrwyr Cymraeg Caerdydd.
Ond yn ôl Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd ar y pryd, roedd y cynnig yn galw ar Fwrdd yr Ymddiriedolwyr i ystyried creu’r swydd, a dim mwy.
Yn ôl un o fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd, fe wnaeth y Bwrdd bleidleisio o blaid cynnal adolygiad, a ffurfio gweithgor i ystyried y sefyllfa, yn 2019.
Roedd disgwyl i’r Pwyllgor hwnnw gael ei sefydlu erbyn mis Gorffennaf eleni, meddai Deio Owen, sydd wedi eilio’r cynnig ar gyfer creu Swyddog Cymraeg Llawn Amser.
Roedd disgwyl i adroddiad ar y mater gael ei gyhoeddi fis hwn, meddai, ac mae’n “rhwystredig” nad yw hynny wedi digwydd.
“Sicrhau llais”
“Yn amlwg mae Covid wedi bod, a dyna yw eu hesgus nhw eu bod nhw mor slow gyda’r gwaith,” meddai Annell Dyfri, sy’n Swyddog y Gymraeg gwirfoddol, rhan amser, yn yr Undeb ar hyn o bryd, wrth golwg360.
Pwysleisiodd ei bod hi eisiau cydweithio gyda’r Undeb yn fwy na dim, er mwyn trio cael penodiad a chael swyddog llawn amser.
“Mae e wedi methu yn y gorffennol, ond fe wnaeth e basio yn yr AGM. Mae llais y myfyrwyr wedi galw amdano fe o’r blaen,” meddai.
“[Rydyn ni’n] gobeithio cydweithio gyda nhw, achos mae’r rôl mewn rhai o brifysgolion eraill Cymru, felly pam bod prifysgol fwyaf Cymru, prifysgol sydd ym mhrifddinas Cymru, ac yn y Grŵp Russell – yr unig brifysgol yng Nghymru sydd yn y Grŵp Russell yna – ddim yn teilwra eu hanghenion nhw i sicrhau bod y Gymraeg yn cael yr un sylw?
“[Mae] eisie rôl er mwyn ateb gofynion y Gymraeg, er mwyn cefnogi myfyrwyr, a sicrhau llais yn fwy na dim byd.
“Rydyn ni wedi rhoi cynnig mewn jyst i gael Swyddog Llawn Amser i Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, er mwyn bod yna rôl sy’n cael ei thalu yn y lle cyntaf, bod yna rôl yna drwy’r amser er mwyn cefnogi’r myfyrwyr.
“Dw i yn fy nhrydedd flwyddyn, dw i’n astudio Cymraeg a’r Gweithle Proffesiynol, dw i’n weithgar, ond hefyd dw i’n fyfyrwraig ac mae gyda fi’r astudiaethau i’w gwneud law yn llaw â hwn.
“Mae’n ormod o faich ar un unigolyn, sydd ddim yn cael ei thalu, sydd ddim yn cael y gefnogaeth yna, falle, i wneud y rôl rhan amser yn unig.
“Mae mwy a mwy o fyfyrwyr Cymraeg yn dod i Brifysgol Caerdydd bob blwyddyn, felly mae angen inni ateb ar hynny ac ymddwyn ar hynny i gefnogi nhw, a sicrhau llais iddyn nhw.”
“Pam lai?”
Mae Annell Dyfri yn “hyderus” bod posib i’r myfyrwyr gydweithio â’r Undeb i sicrhau Swyddog Cymraeg Llawn Amser, ac yn dweud bod hwn yn gyfle rhy dda i’w golli.
“Dw i’n credu bod llawer iawn o bwysau arnom ni nawr i drio gwneud newid, ond rydyn ni eisie gweld y newid yna.
“Dw i’n gallu gweld dyfodol disglair i’r Gymraeg yma, os bydd hwn yn cael llwyddo.
“Mae’n gallu bod yn arf marchnata cryf i’r brifysgol, i ddenu mwy a mwy o fyfyrwyr Cymraeg yma… pam lai cael swyddog llawn amser?”
Cafodd swydd llawn amser ar gyfer Swyddog Cymraeg ei chreu ym Mhrifysgol Abertawe’r llynedd, ac mae swyddogion llawn amser ym Mangor ac Aberystwyth ers y 1970au.
“Mae’n gweithio’n llwyddiannus,” meddai Annell Dyfri, “mae prifysgolion Bangor, Abertawe ac Aberystwyth gyda swyddogion llawn amser, felly pam ydyn ni ar ei hôl hi?
“Mae angen i ni weithredu, neu mae’r Gymraeg ar ei hôl hi yn y brifddinas.”
“Rhwystredig”
Ym marn Deio Owen, sydd wedi eilio’r cynnig i gael Swyddog Cymraeg llawn amser, dydi hi “ddim yn deg” bod yna gyfrifoldeb ar fyfyrwyr i drefnu digwyddiadau, a chynrychioli myfyrwyr Cymraeg yn ddi-dâl, pan mae’r gwaith yn cael ei dalu’n llawn amser mewn tair prifysgol arall yng Nghymru.
Yn ogystal â bod yn Gadeirydd Cymdeithas Iolo, mae Deio Owen yn drysorydd Y Gym Gym (Y Gymdeithas Gymraeg), sy’n trefnu digwyddiadau i fyfyrwyr Cymraeg y brifysgol.
“Rydyn ni’n bedwar myfyriwr ail flwyddyn sy’n gorfod trefnu digwyddiadau i bobol, ac mae’n lot o waith heb fod angen,” meddai Deio Owen wrth golwg360.
“Dydyn ni ddim yn teimlo bod yna gynrychiolaeth Gymraeg o gwbl [o fewn yr Undeb Myfyrwyr].
“Maen nhw’n dweud bod yna ddim pres, neu does yna ddim digon o alw amdano fo, fysa’r person yma ddim efo job i’w wneud.
“Mae’n rhwystredig, â bod yn onest.”
Mae’r myfyrwyr wedi sefydlu deiseb yn galw am Swyddog Cymraeg Llawn Amser hefyd, ac yn gofyn i bobol ei harwyddo er mwyn cefnogi’r ymgyrch.
“Ddim yn ymarferol”
Wrth ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Undeb Myfyrwyr Caerdydd fod y pandemig wedi atal yr Undeb rhag gallu cadw at yr amserlen ar gyfer ymgymryd ag adolygiad o’r gefnogaeth sydd ar gael i fyfyrwyr Cymraeg.
“Fe wnaeth pleidlais yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol yr Undeb ym mis Tachwedd 2018 alw am greu wythfed swyddog sabothol,” meddai llefarydd ar ran Undeb Myfyrwyr Caerdydd.
“Penderfynodd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr, ar ôl ymgynghori gyda rhenddeiliaid mewnol ac allanol, nad oedd cynyddu maint y Bwrdd Rheoli’n ymarferol, ond y gallai fod yn rhesymol cynnwys Swyddog y Gymraeg fel rhan o’r tîm o saith.
“Cafodd nifer o gynigion gydag opsiynau a oedd yn cynnwys swyddog sabothol dros y Gymraeg eu cynnig i fyfyrwyr ym mis Tachwedd 2019, gyda dros 700 o fyfyrwyr yn penderfynu drwy bleidlais ddemocrataidd eu bod nhw’n dymuno cadw’r strwythur presennol.
“Daeth y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol i’r canlyniad y dylai’r Undeb ymgymryd ag adolygiad manwl o’r gefnogaeth a’r gynrychiolaeth i siaradwyr a dysgwyr Cymraeg, i’w gynnal dros y deunaw mis wedyn.
“Roedd disgwyl, yn wreiddiol, i’r adolygiad manwl adrodd i’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yr wythnos nesaf, fodd bynnag, mae’r pandemig byd-eang a’i effaith ar y sefydliad wedi’u hatal rhag gallu cadw at yr amserlen.
“O ganlyniad, mae amserlen newydd, sydd wedi’i hadolygu mewn partneriaeth ag ein siaradwyr Cymraeg, wedi cael ei chynhyrchu ac yn cael ei dilyn, er mwyn adrodd yn ôl i Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol Tachwedd 2022.
“Gallai’r adroddiad hwn wneud ystod o argymhellion i fyfyrwyr eu hystyried, gan gynnwys a ddylid cael swyddog sabothol i gynrychioli siaradwyr a dysgwyr Cymraeg.”