Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi fframwaith cenedlaethol, y cyntaf o’i fath, ar gyfer atal, diagnosis, triniaeth, a chymorth ar gyfer niwed i’r ymennydd sy’n gysylltiedig ag alcohol.
Mae ARBD yn cyfeirio at sbectrwm o gyflyrau sy’n cael eu priodoli gan nam gwybyddol cronig yn sgil newidiadau i’r ymennydd oherwydd defnydd gormodol o alcohol dros amser.
Nod y fframwaith, a gafodd ei lansio gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle heddiw (19 Tachwedd), yw codi ymwybyddiaeth am sut y gall ARBD effeithio ar bobol, a’r cymorth sydd ei angen arnyn nhw.
Mae’r fframwaith wedi’i ddylunio i roi canllawiau i ddarparwyr iechyd a gofal cymdeithasol ar sut y dylen nhw ymateb i bobol sy’n cael eu heffeithio gan niwed i’r ymennydd sy’n gysylltiedig ag alcohol.
Yn ogystal, mae’n canolbwyntio ar sut y gall rhannau eraill o’r gymuned gefnogi pobol sydd ag ARBD.
Nod hirdymor y fframwaith fydd sefydlu gwasanaethau ARBD pwrpasol ym mhob bwrdd iechyd, gan sicrhau bod gan bobol fynediad at ystod o wasanaethau, gan gynnwys seicolegwyr a therapyddion galwedigaethol.
Mae cymorth sefydliadau gofal cymdeithasol a’r trydydd sector yn “hanfodol” o ran gofalu am unigolion ag ARBD, meddai Llywodraeth Cymru, er mwyn darparu llety da a chymorth ehangach yn y gymuned.
“Codi ymwybyddiaeth”
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle, fod “cefnogi pobol sydd â niwed i’r ymennydd sy’n gysylltiedig ag alcohol yn rhywbeth sy’n gofyn am ymlyniad gan ystod eang o sefydliadau”.
“Rydyn ni eisiau codi ymwybyddiaeth ar draws cymunedau a sefydliadau i sicrhau bod gan bobl fynediad at wasanaethau a’u bod yn cael eu trin mewn modd amserol,” meddai Lynne Neagle.
“Mae’r fframwaith yn darparu canllawiau a dull cydgysylltiedig ar gyfer yr holl bobl sy’n ymwneud â helpu pobl sydd ag ARBD.
“ Hoffwn ddiolch i Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r arbenigwyr lu yn y maes am eu mewnbwn i’r darn hwn o waith.
“Mae’n bwysig ein bod ni hefyd yn codi ymwybyddiaeth o’r niwed y gall alcohol ei achosi i unigolion a’u teuluoedd ac iddyn nhw gydnabod bod cymorth ar gael, os bydd angen.”
“Diagnosis annigonol”
Cafodd y fframwaith ei datblygu gyda chefnogaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac arbenigwyr blaenllaw yn y maes, ynghyd â thrwy ymgynghoriad cyhoeddus.
“Rydyn ni’n croesawu cyhoeddiad y Fframwaith Trin Niwed i’r Ymennydd sy’n Gysylltiedig ag Alcohol yng Nghymru yn fawr iawn,” meddai Josie Smith, Pennaeth Camddefnyddio Sylweddau gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru.
“Rydyn ni’n gwybod bod diagnosis annigonol o’r cyflwr hwn yn y Deyrnas Unedig hyd yma, nad yw’n gyflwr dirywiol os bydd y claf yn rhoi’r gorau i yfed, a chyda’r cymorth priodol, y gall y rhan fwyaf o unigolion gyrraedd rhyw lefel o wellhad.
“Yn ogystal â hyn, gyda’r mentrau ymgysylltu cynnar ac ataliol priodol, mae’n bosibl y bydd llai o unigolion a’u teuluoedd yn cael eu heffeithio. Mae’r canllawiau hyn yn cynrychioli llwybrau cynhwysfawr ac arloesol at gyflawni’r canlyniadau hyn.”