Mae dau blentyn a dwy fenyw wedi marw mewn tân mewn tŷ yn Bexleyheath yn ne ddwyrain Llundain.
Yn ôl y Gwasanaeth Tân yn Llundain roedd chwe injan dan a 40 o ddiffoddwyr wedi’u hanfon i’r digwyddiad tua 8.30yh nos Iau (18 Tachwedd).
Roedd criwiau wedi achub dwy fenyw a dau blentyn o’r llawr cyntaf ond bu farw’r pedwar yn y fan a’r lle, meddai’r Gwasanaeth Tân.
Mae dyn a oedd wedi gadael yr adeilad cyn i’r diffoddwyr tân gyrraedd wedi cael ei gludo i’r ysbyty. Mae ymchwiliad ar y gweill i achos y tân.
Dywedodd Comisiynydd Gwasanaeth Tân Llundain Andy Roe : “Mae hyn yn ddigwyddiad ofnadwy sydd yn drist ac yn frawychus. Mae ein meddyliau gyda theulu, ffrindiau a’r gymuned leol yn ystod y cyfnod anodd yma.”
Mewn datganiad, dywedodd Maer Llundain Sadiq Khan fod y newyddion yn “dorcalonnus” a’i fod yn cadw mewn cysylltiad â’r Gwasanaeth Tân wrth iddyn nhw ymchwilio i’r digwyddiad.