Bydd plant a phobol ifanc Cymru’n cael cymorth ychwanegol i’w diogelu rhag bygythiadau ar-lein, wrth i Lywodraeth Cymru ymuno â’r elusen diogelu plant Internet Watch Foundation (IWF).

Llywodraeth Cymru yw’r corff llywodraethol cyntaf i ymuno â’r elusen fel aelod, a bydd adnoddau Cymraeg yn helpu plant i adnabod arwyddion bod rhywun yn trio magu perthynas amhriodol â nhw, a’u cam-drin, ar-lein.

Mae elusen IWF yn gyfrifol am ganfod a chael gwared ar ddeunydd sy’n dangos plant yn cael eu cam-drin yn rhywiol oddi ar y rhyngrwyd.

Fel rhan o Wythnos Ddiogelu Cenedlaethol, mae’r elusen wedi cyhoeddi heddiw (19 Tachwedd) bod is-adran Dysgu Digidol Llywodraeth Cymru wedi dod yn aelod newydd.

Darparu adnoddau

Bydd yr elusen yn cydweithio â phartneriaid yn y Llywodraeth i sicrhau bod eu llwyfan Hwb, sy’n gartref i’r Cwricwlwm i Gymru ac yn darparu adnoddau a phecynnau digidol i ysgolion, mor ddiogel â phosib.

Fe fydd y llwyfan yn trio grymuso plant a phobol ifanc i adnabod yr arwyddion o feithrin perthynas amhriodol ar-lein ac ecsbloetio, a hynny drwy ddarparu tudalennau cymorth pwrpasol.

Bydd y deunyddiau’n cynnwys gwybodaeth am ymgyrchoedd Gurls Out Loud a Home Truths yr elusen.

Cafodd yr ymgyrchoedd hyn eu lansio mewn ymateb i nifer cynyddol o adroddiadau ynghylch deunyddiau sy’n cam-drin plant yn rhywiol ar-lein, lle mae plant wedi cael eu targedu, a’u twyllo neu eu hecsbloetio i gynhyrchu a rhannu delwedd neu fideo rhywiol o’u hunain.

Y gobaith yw y bydd y deunyddiau dwyieithog a’r erthyglau gan arbenigwyr yn cael effaith fawr, ac yn helpu i ledaenu’r rhybudd am y cynnydd yn y bygythiadau ar-lein.

“Risg ddifrifol”

Yn 2020, fe wnaeth dadansoddwyr yr IWF ddelio â’r nifer uchaf erioed o adroddiadau am ddeunydd cam-drin plant yn rhywiol ar-lein, gan olygu bod Llywodraeth Cymru’n ymuno â’r elusen “mewn cyfnod allweddol”.

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, ei fod un “falch iawn” bod Hwb yn cydweithio â’r elusen, gan “olygu mai Llywodraeth Cymru yw’r corff llywodraethol cyntaf i ymuno â’i chymuned o aelodau byd-eang, ac yn rhoi cymorth iddynt i barhau i helpu’r rhai sydd wedi dioddef oherwydd cam-drin ac ecsbloetio plant yn rhywiol”.

“Er mwyn atgyfnerthu’r neges bod meithrin perthynas amhriodol ar-lein yn risg ddifrifol, ac yn risg y mae’n rhaid i ni fynd i’r afael ag ef gyda’n gilydd, rydym hefyd yn cydweithio â’r IWF i hyrwyddo’r ddwy brif ymgyrch sy’n ymwneud ag atal meithrin perthynas amhriodol ar-lein, sef – Gurls Out Loud a Home Truths,” meddai Jeremy Miles.

“Rwy’n edrych ymlaen at gael cydweithio â’r IWF a mynd i’r afael â bygythiadau fel hyn yn erbyn plant a phobl ifanc ar-lein.”

“Tu hwnt i bob rheolaeth”

Dywedodd Susie Hargreaves OBE, Prif Weithredwr IWF: “Yn anffodus, ers y cyfnod clo, rydym wedi gweld bygythiadau ar-lein yn erbyn plant a phobl ifanc yn mynd tu hwnt i bob rheolaeth.

“Mae potensial anferth i’r rhyngrwyd wneud gwaith gwych, ac mae wedi bod yn adnodd amhrisiadwy i blant allu dysgu, cymdeithasu a chadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theuluoedd.

“Ond mae unigolion diegwyddor sy’n cymryd mantais ar bobl yn camddefnyddio’r rhyngrwyd hefyd. Mae’n hanfodol ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod plant yn ymwybodol o’r peryglon, a bod troseddwyr yn cael eu canfod a’u dal.

“Dyma pam mae partneriaethau fel hyn mor bwysig. Drwy gydweithio â Llywodraeth Cymru gallwn helpu i sicrhau bod mwy o blant yn cael eu diogelu ar-lein, a gallwn sicrhau bod yr offer, sgiliau a’r adnoddau cywir ar gael fel bod modd i blant a phobl ifanc fod yn hyderus am herio ymddygiad camdriniol pan maent yn gweld hynny.”