Mae Azeem Rafiq, cyn-gricedwr Clwb Criced Swydd Efrog, wedi cyfaddef bod ganddo “gywilydd” o negeseuon gwrth-Semitaidd a anfonodd at gyn-chwaraewr arall mwy na degawd yn ôl.

Mae’r cyn-droellwr wedi cael ei ganmol am rannu ei brofiadau o hiliaeth yn y gêm wrth fynd gerbron pwyllgor seneddol yn San Steffan yr wythnos hon.

Cyflwynodd Azeem Rafiq dystiolaeth ddamniol am broblem hiliaeth yn y byd criced i’r Pwyllgor Digidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon ac mae datganiad arall ganddo hefyd wedi datgelu honiadau ynghylch nifer o chwaraewyr, gan gynnwys Michael Vaughan, Gary Ballance, Tim Bresnan, Matthew Hoggard ac Alex Hales.

Ond nawr mae wedi gorfod ymddiheuro am ei ymddygiad ei hun ar ôl i negeseuon gafodd eu hanfon at gyn-chwaraewr Swydd Warwick a Swydd Gaerlŷr, Ateeq Javid, ddod i law The Times.

Mae’r negeseuon wedi dod i’r amlwg cyn i gyfarfod gael ei gynnal yn yr Oval heddiw (Dydd Gwener, 19 Tachwedd).

“Mae gen i gywilydd o’r negeseuon a bellach wedi eu dileu fel na fydd yn achosi rhagor o loes,” meddai Azeem Rafiq, 30 oed, ar Twitter.

“Roeddwn i’n 19 ar y pryd a dw i’n gobeithio ac yn credu fy mod i’n berson gwahanol heddiw. Rwy’n gandryll gyda fy hun ac yn ymddiheuro i’r gymuned Iddewig a phawb y mae hyn wedi peri loes iddyn nhw.”

Ychwanegodd na fyddai’n ceisio “amddiffyn yr hyn na ellir ei amddiffyn” ac mae wedi ymddiheuro’n daer.

Alex Hales yn ymddiheuro

Yn y cyfamser mae cyn-fatiwr tîm criced Lloegr¸ Alex Hales, wedi cyfaddef paentio ei wyneb yn ddu mewn parti yn 2009. Dywedodd mewn datganiad i The Sun ei fod wedi mynd i barti gwisg ffansi yn 2009 ac wedi’i wisgo fel y rapiwr Tupac Shakur.

“Ar y pryd doeddwn i ddim wedi sylweddoli natur sarhaus hyn. Rwy’n ategu’r datganiad yn gynharach yn yr wythnos ac yn pwysleisio cymaint rwy’n casáu hiliaeth a gwahaniaethu yn ei holl ffurfiau.”

Wrth ymateb i sylwadau Rafiq, dywedodd llywydd Bwrdd Dirprwyon Iddewon Prydain, Marie Van Der Zyl, y byddai’r cricedwr yn ymwybodol iawn o’r loes y byddai ei sylwadau wedi’u hachosi.

“Mae Azeem Rafiq wedi dioddef yn ofnadwy oherwydd hiliaeth mewn criced felly bydd yn deall yn iawn y loes y bydd y cyfnewid hwn yn ei achosi i Iddewon sydd wedi ei gefnogi,” meddai Van Der Zyl.

“Mae ei ymddiheuriad yn sicr yn ymddangos yn dod o’r galon ac nid oes gennym reswm i gredu nad yw’n gwbl ddiffuant.”

Mae cyn-glwb Ateeq Javid, Swydd Warwick, wedi dweud eu bod yn “bryderus iawn” am y negeseuon ac y byddan nhw’n trafod y mater ymhellach gydag o.