Mae Prif Hyfforddwr Merched Cymru, Ioan Cunningham, wedi gwneud tri newid i’r tîm fydd yn herio Canada ddydd Sul (21 Tachwedd).
Bydd y gêm yn cael ei chwarae ar Barc yr Arfau gyda’r gic gyntaf am bump y pnawn a bydd modd ei gwylio hi’n fyw ar BBC 2.
Daw hyn ar ôl i Gymru guro De Affrica 29-19 ddydd Sadwrn diwethaf (13 Tachwedd).
Bydd Kiera Bevan yn dechrau’r gêm yn safle’r mewnwr, tra bod Caryl Thomas yn dychwelyd i’r tîm yn safle’r prop pen rhydd.
Lisa Neumann fydd ar yr asgell dde ar ôl methu’r ornest yn erbyn De Affrica oherwydd anaf.
Mae Kat Evans hefyd wedi gwella o anaf ac yn ennill lle ar y fainc.
“Parhau i wella”
“Ein prif ffocws yw parhau i wella,” meddai Ioan Cunningham.
“Rydym yn falch o’r ffordd aeth pethau yn erbyn Japan a De Affrica.
“Fodd bynnag, fe wnaethon ni wastraffu sawl cyfle i sgorio ac mae hynny’n rhywbeth na allwn ei wneud y penwythnos hwn.
“Pan fyddwn yn creu cyfleoedd i sgorio, rhaid inni eu cymryd.
“Mae Canada yn drydydd yn y byd am reswm da.
“Byddan nhw’n ein herio ac yn ein profi ar hyd a lled y cae – maen nhw’n gryf yn y blaen ac yn hoff o ledu’r bêl hefyd.
“Mae’n rhaid i ni fod ar ein gorau o’r dechrau i’r chwiban olaf.
“Rydym yn falch o’r cynnydd rydym wedi ei wneud hyd yma ac rydym yn benderfynol o orffen yr ymgyrch yn gryf.
“Mae yno gystadleuaeth iach o fewn y garfan ac rydym wedi gwobrwyo perfformiadau da, ond mae hi hefyd yn bwysig ein bod yn cynyddu hyder a chysondeb.
“Mae safon yr ymdrech wrth hyfforddi wedi bod yn uchel ac mae’r grŵp i gyd yn haeddu clod.”
Y Tîm: Niamh Terry, Lisa Neumann, Hannah Jones, Kerin Lake, Caitlin Lewis, Elinor Snowsill, Keira Bevan, Siwan Lillicrap (Capten), Bethan Lewis, Alisha Butchers, Georgia Evans, Natalia John, Cerys Hale, Carys Phillips Caryl Thomas
Eilyddion: Kat Evans, Cara Hope, Donna Rose, Gwen Crabb, Alex Callender, Ffion Lewis, Robyn Wilkins, Megan Webb