Mae Wayne Pivac wedi pwysleisio gwerth Jonathan Davies i Gymru ar ôl i’r canolwr golli allan ar le yn y garfan fydd yn herio Awstralia dros y penwythnos.

Bydd Cymru yn herio’r Wallabies am 5.30 brynhawn dydd Sadwrn (Tachwedd 20), gyda darllediad byw ohoni ar gael drwy Amazon Prime. Mi fydd uchafbwyntiau ar S4C am 8.30 y nos.

Byddai’r canolwr 33 oed wedi ennill ei ganfed cap rhyngwladol petai wedi chwarae yn erbyn Awstralia, gan gyfri gemau’r Llewod hefyd.

Ond bydd rhaid i Davies, sy’n cael ei adael allan am resymau tactegol, aros tan o leiaf y Chwe Gwlad nes cyrraedd y garreg filltir honno.

Roedd chwaraewr y Scarlets wedi cael ei ddyrchafu i safle’r capten ar gyfer y gêm brawf Cyfres yr Hydref yn erbyn De Affrica, ar ôl i Alun Wyn Jones gael ei anafu.

Bu hefyd yn gapten yn y gemau yn erbyn Canada a’r Ariannin dros yr haf, wrth i lawer o chwaraewyr fynd ar y daith gyda’r Llewod.

Davies ‘bob amser yn rhoi’r tîm yn gyntaf’

Uilisi Halaholo a Nick Tompkins sydd wedi eu dewis yn ganolwyr yng ngêm olaf Cyfres yr Hydref, ond mae Wayne Pivac yn haeru mai Jonathan Davies sy’n parhau yn gapten y garfan.

Roedd hefyd yn egluro pa mor bwysig oedd i dîm Cymru, er gwaetha’i absenoldeb.

“Y peth cyntaf dw i am ei ddweud yw mai fe yw capten y grŵp ers i Alun Wyn Jones adael [oherwydd anaf],” meddai prif hyfforddwr Cymru.

Wayne Pivac, prif hyfforddwr Cymru

“Dydy hynny’n newid dim pan dydy e ddim yn chwarae. Mae’n cyfrannu’n helaeth oddi ar y cae, ac mae’n chwaraewr profiadol. Mae’n deall ein bod ni bob amser yn rhoi’r tîm yn gyntaf.

“Gymaint ag y mae e eisiau chwarae, mae’n deall y rheswm. Rydyn ni wedi siarad â Jonathan ac mae’n gwybod beth sy’n ddisgwyliedig ohono pan fydd yn mynd yn ôl i chwarae i’w glwb.

“Fe fydd e eisiau cael rhediad o gemau, fel gwnaeth e’r llynedd o ganol y Chwe Gwlad ymlaen. Cafodd e dair gêm, ac os wnaethoch chi edrych ar ei berfformiad yn erbyn Ffrainc yn y crys rhif 12, roedd e’n rhagorol.

“Mae wedi rhoi’r tîm yn gyntaf ac mae’n gwneud hynny eto. Bydd yn mynd i ffwrdd ac rydyn ni’n gobeithio y bydd e’n cael digon o gyfleoedd yng nghrys rhif 12 i ddangos i bawb beth mae’n gallu ei wneud.”

Cwpan y Byd 2023

Mae Wayne Pivac yn credu bod Jonathan Davies mewn lle da wrth edrych ymlaen at Gwpan y Byd 2023 yn Ffrainc.

“Mae’n gwybod bod gennym ni Gwpan y Byd rydyn ni’n gweithio tuag ato, ac mae’n ysu i gael chwarae yn y Cwpan y Byd hwnnw,” meddai.

“Mae’n credu bod ganddo rywbeth i’w gyfrannu a’i gynnig, fel arall rwy’n credu y byddai’n ymddeol.

“Rydyn ni hefyd yn credu bod gan Jonathan rywbeth i’w gynnig, a dyna pam ei fod yn y garfan. Bydd yn rhaid i ni aros i weld sut mae pethau’n mynd erbyn y Chwe Gwlad.

“Pe bawn i’n ddyn betio, fyswn i ddim yn betio ar Jonathan Davies yn cerdded i ffwrdd yn rhy fuan.”

Enwau newydd

Mae Pivac wedi gwneud saith newid i’w dîm i herio Awstralia, wrth i Gyfres yr Hydref ddod i ben.

Ellis Jenkins fydd y capten unwaith eto, a bydd Josh Adams, Tomas Francis ac Aaron Wainwright ymysg y rhai sy’n dychwelyd i’r 15 cyntaf ar ôl gwella o anafiadau.

Mae colli cymaint o chwaraewyr i anafiadau – dros 15 i gyd – wedi effeithio’n fawr ar bencampwyr y Chwe Gwlad eleni.

Er hynny, mae wedi galluogi i grŵp newydd o chwaraewyr amlygu eu hunain ar y llwyfan rhyngwladol.

“Mae rhai chwaraewyr wedi perfformio’n dda iawn, sydd wedi bod yn fonws enfawr i ni,” meddai Wayne Pivac.

“Ochr arall y geiniog o gael chwaraewyr yn holliach yw bod dim cymaint o chwaraewyr eraill yn cael cyfle, ac erbyn Cwpan y Byd, mae posib wedyn y bydden ni’n gorfod rhoi gemau i chwaraewyr dibrofiad.

“Felly mae wedi ein helpu ni i roi profiad i chwaraewyr nawr a datblygu carfannau’r dyfodol, sydd yn wych.”

Y tîm:

15 Liam Williams (Scarlets), 14 Louis Rees-Zammit (Caerloyw), 13 Nick Tompkins (Saraseniaid), 12 Uilisi Halaholo (Caerdydd), 11 Josh Adams (Caerdydd), 10 Dan Biggar (Northampton), 9 Tomos Williams (Caerdydd); 1 Wyn Jones (Scarlets), 2 Ryan Elias (Scarlets), 3 Tomas Francis (Y Gweilch), 4 Adam Beard (Y Gweilch), 5 Seb Davies (Caerdydd), 6 Ellis Jenkins (Caerdydd – capten), 7 Taine Basham (Y Dreigiau), 8 Aaron Wainwright (Y Dreigiau)

Eilyddion:

16 Elliot Dee (Y Dreigiau), 17 Gareth Thomas (Y Gweilch), 18 Dillon Lewis (Caerdydd), 19 Ben Carter (Y Dreigiau), 20 Christ Tshiunza (Caerwysg), 21 Gareth Davies (Scarlets), 22 Rhys Priestland (Caerdydd), 23 Johnny McNicholl (Scarlets)