Mae Steve Morison, rheolwr dros dro Caerdydd, wedi gofyn i’r cefnogwyr ymddiried ynddo ef a’i chwaraewyr, gyda’r clwb yng ngwaelodion y Bencampwriaeth.
Daw’r alwad am ffydd wrth i’r Adar Gleision baratoi i herio Preston oddi cartref ddydd Sadwrn (20 Tachwedd) gyda’r gic gyntaf am dri’r pnawn.
Mae Caerdydd yn yr 20fed safle yn y Bencampwriaeth ar hyn o bryd, tra bod Preston yn 16eg.
“Mae’r clwb wedi rhoi eu ffydd ynof, a fy lle i yw ad-dalu hynny nawr,” meddai.
“Ein nod tymor byr yw codi’n uwch yn y gynghrair, ac mae angen i ni wneud hynny gyda’n gilydd fel grŵp.
“Mae’n ymwneud â chael y chwaraewyr a’r staff i gyd i fynd i’r cyfeiriad cywir.
“Rwy’n awyddus i bawb fwynhau eu gwaith bob dydd, oherwydd dyna yw’r holl bwynt.
“Rwy’n gofyn i’r cefnogwyr ymddiried ynom ni, aros gyda ni, a chredu yn yr hyn rydyn ni’n ceisio’i wneud.”
“Hanfodol” bod Caerdydd yn dechrau cael canlyniadau da
Mae amddiffynnwr Caerdydd Perry Ng wedi dweud ei bod hi’n hollbwysig bod Caerdydd yn gwella.
“Mae’n hanfodol ein bod ni’n dechrau cael canlyniadau, dw i’n meddwl,” meddai.
“O ystyried y sefyllfa yr ydym ni a Preston ynddi ar hyn o bryd, a gan fod y ddau dîm yn chwarae mewn systemau tebyg, rwy’n credu y bydd hi’n gêm dda.
“Byddwn yn mynd yno gyda chefnogaeth gref ac yn ceisio sicrhau’r triphwynt.
“Rydym wedi cael cyfnodau rhwystredig y tymor hwn, ond rwyf wedi cyffroi o weld beth sydd ar y gorwel.
“Mae Steve Morison, Tom (Ramasut) a (Mark Hudson) wedi dod a steil newydd i’n sesiynau hyfforddi yn ddiweddar, sydd wedi bod yn help mawr i ni yn nhermau codi’r hyder, sy’n bwysig wrth i ni geisio cael canlyniadau da.
“Rydym wedi cael rhai sesiynau hyfforddi da iawn, ac mae profiad Mark fel amddiffynnwr wedi bod yn help mawr i mi yn bersonol.
“Dw i’n credu fod ei brofiad yn golygu ei bod ni’n sicr o wella wrth i ni fynd ymhellach i mewn i’r ymgyrch.”