Mae’r 18 sir griced dosbarth cyntaf wedi ymrwymo i gynllun 12 pwynt i fynd i’r afael â hiliaeth yn y gamp, ac i hyrwyddo amrywiaeth.

Daw hyn yn dilyn cyfarfod yn yr Oval yn Surrey ddoe (dydd Gwener, Tachwedd 20).

Roedd cynrychiolwyr o Fwrdd Criced Cymru a Lloegr (ECB), Cymdeithas y Cricedwyr Proffesiynol (PCA), yr MCC, y Siroedd Cenedlaethol (NCCA) a’r Rhwydwaith Dosbarth Cyntaf a Llawr Gwlad yn rhan o’r cyfarfod.

Maen nhw wedi cytuno ar gynllun gweithredu i ddileu rhagfarn, gwneud criced yn fwy hygyrch a chynhwysol, a sicrhau gwell arweiniad a llywodraethiant.

Mae’r siroedd wedi cytuno i drafod y cynllun gweithredu gyda’u rhanddeiliaid cyn cyfarfod eto yr wythnos nesaf i’w gymeradwyo’n derfynol.

Daw’r cyfarfod yn sgil honiadau gan Azeem Rafiq, cyn-chwaraewr Swydd Efrog, ynghylch hiliaeth sefydliadol yng Nghlwb Criced Swydd Efrog.

Fe fu’n rhoi tystiolaeth i bwyllgor seneddol yn San Steffan, lle gwnaeth e enwi nifer o unigolion sydd wedi gwneud sylwadau hiliol yn y gorffennol.

Ond fe ddaeth i’r amlwg hefyd iddo yntau wneud sylwadau gwrth-Semitaidd ar y cyfryngau cymdeithasol ddegawd yn ôl.

Datganiad

Yn dilyn y cyfarfod, cafodd datganiad ar y cyd ei gyhoeddi gan yr holl gynrychiolwyr, gan ddweud bod honiadau Azeem Rafiq “wedi taflu goleuni ar ein gêm sydd wedi ein syfrdanu, ein cywilyddio a’n tristhau ni i gyd”.

“Mae hiliaeth a gwahaniaethu yn bla yn ein gêm,” meddai.

“I Azeem a phawb sydd wedi profi unrhyw fath o wahaniaethu, mae’n flin iawn gennym.

“Wnaeth ein camp ddim eich croesawu chi, wnaeth ein camp ddim eich derbyn chi fel y dylai fod wedi’i wneud.

“Rydym yn ymddiheuro’n ddi-ben-draw am eich dioddefaint.

“Safwn gyda’n gilydd yn erbyn gwahaniaeth o bob math, ac rydym yn unedig fel camp er mwyn gweithredu.

“Byddwn yn parhau i wrando, a gwneud newidiadau positif, cyflym i ddiwylliant y gamp.

“Byddwn yn cofleidio a dathlu gwahaniaethau ym mhob man, gan wybod ein bod ni’n gryfach trwy amrywiaeth.

“Heddiw, fel camp, fe wnaethon ni drafod cyfres o ymrwymiadau diriaethol i wneud criced yn gamp lle mae pawb yn teimlo’n ddiogel, a lle mae pawb yn teimlo eu bod nhw wedi’u cynnwys.

“Byddwn nawr yn cadarnhau’r manylion ac yn cyhoeddi’r gweithredoedd hyn yr wythnos nesaf.

“Mae’n rhaid i’n camp adennill eich ymddiriedaeth.”

Gwrandewch ar bodlediad Amgueddfa Griced Cymru yn trafod criced yn y gymuned Asiaidd yn ne Cymru.

Dangos y cerdyn coch i hiliaeth

“Rydan ni’n meddwl fod o’n bwysig i roi chwyddwydr ar adrodd da, ond mae’n bwysig, yn enwedig pan mae rhywbeth fel hyn wedi digwydd, ein bod ni’n stopio ac yn dweud, “Mae angen newid”,” meddai Noam Devey o’r mudiad Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth.

“A dyma rydan ni’n gweld sydd yn digwydd.

“Mae’n drueni, mae’n cymryd rhywun i greu’r newid yma, a rhywun yn gorfod dioddef, sy’n drist, drist iawn ond fel pobol, rydan ni’n gobeithio defnyddio y prawf yma er mwyn dysgu ohono fo, a fyddwn ni ddim yn y sefyllfa yma, gobeithio, yn y dyfodol.”

Morgannwg yn ategu eu hymrwymiad i ddileu hiliaeth

Yn dilyn sgandal Swydd Efrog, mae’r sir griced Gymreig yn dweud nad ydyn nhw’n goddef hiliaeth na gwahaniaethu o unrhyw fath arall
Azeem Rafiq

Y cyn-gricedwr Azeem Rafiq yn cyfaddef ‘cywilydd’ dros negeseuon gwrth-Semitaidd ddegawd yn ôl

Yn y cyfamser mae cyn-fatiwr tîm criced Lloegr¸ Alex Hales, wedi cyfaddef paentio ei wyneb yn ddu mewn parti yn 2009
Azeem Rafiq

Azeem Rafiq yn gobeithio agor y llifddorau fel bod mwy o chwaraewyr yn codi’u lleisiau

Mae’r cyn-gricedwr gyda Swydd Efrog yn rhoi tystiolaeth i bwyllgor yn San Steffan
Azeem Rafiq

Azeem Rafiq yn datgelu ei brofiadau o hiliaeth wrth bwyllgor seneddol

Mae cyn-gricedwr Swydd Efrog wedi bod yn rhoi tystiolaeth i bwyllgor seneddol sy’n cynnal ymchwiliad i’r honiadau