Mae Clwb Criced Morgannwg wedi ategu eu polisi o beidio goddef hiliaeth na gwahaniaethu o unrhyw fath arall.

Daw hyn yn dilyn ffrae Azeem Rafiq, y cyn-chwaraewr sy’n cyhuddo Swydd Efrog o hiliaeth sefydliadol.

Mae Morgannwg hefyd wedi wynebu nifer o honiadau hanesyddol dros y flwyddyn ddiwethaf.

“Mae Criced Morgannwg yn sefydliad gwrth-hiliaeth sydd â pholisi o beidio goddef unrhyw fath o ragfarn,” meddai’r clwb mewn datganiad ar eu gwefan.

“Ynghyd â’r ECB (Bwrdd Criced Cymru a Lloegr) a rhanddeiliaid eraill, mae gan y clwb ymrwymiad parhau i amrywiaeth a chynhwysiant ac yn cymryd camau gweithredol i ymgysylltu â’n cymunedau amrywiol ledled Cymru i sicrhau bod criced yn amgylchfyd croesawgar i bawb.”

Pwyllgor

Mae Rezwan Hassan yn aelod o bwyllgor Clwb Criced Morgannwg ac yn gadeirydd Is-bwyllgor Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant y sir, a gafodd ei sefydlu i wella gwybodaeth y clwb a’i effaith ar gymunedau amrywiol ledled Cymru.

“Mae hiliaeth a gwahaniaethu o unrhyw fath yn gwbl ffiaidd, ac mae’r digwyddiadau diweddar hyn wedi taflu cysgod dros y gêm,” meddai.

“Mae yna gyfle go iawn i griced ddysgu o hyn a symud ymlaen i fod yn gamp fwy hygyrch a chynhwysol.

“Mae Morgannwg wedi cymryd camau breision dros y blynyddoedd diwethaf i wella cysylltiadau ac estyn allan i gymunedau amrywiol yng Nghymru, ond rydym yn gwybod fod rhaid gwneud mwy, a pharhau i wrando a dysgu gan unrhyw un a all fod wedi’i effeithio gan wahaniaethu.”

Gwahoddiad i godi llais

Mae Clwb Criced Morgannwg yn gwahodd unrhyw chwaraewr, hyfforddwr, swyddog neu gyflogai i gysylltu â nhw os oes ganddyn nhw wybodaeth am achosion o hiliaeth neu wahaniaethu yn y clwb.

Mae gofyn i unrhyw un sydd am godi pryderon wneud hynny trwy wasanaeth adrodd cyfrinachol sydd wedi’i sefydlu gan Gymdeithas y Chwaraewyr Proffesiynol (PCA) a’r ECB – y cyfeiriadau e-bost priodol yw equality@thepca.co.uk ac equality@ecb.co.uk

Mae comisiwn annibynnol hefyd yn galw am dystiolaeth gan y cyhoedd drwy holiadur ar wefan yr ICEC, a bydd adroddiad yn cael ei gyhoeddi haf nesaf, gan awgrymu camau i’w cymryd mewn perthynas â hil, rhyw a dosbarthiadau cymdeithasol yn y byd criced.