Mae canolwr y Scarlets Scott Williams wedi cael ei ryddhau o garfan Cymru.

Roedd wedi ymuno â’r garfan ar ôl i Willis Halaholo brofi’n bositif am Covid-19.

Ond gyda Halaholo yn ail ymuno â’r garfan, bydd Williams yn dychwelyd at ei ranbarth.

Mae’r gŵr 31 oed wedi ennill 58 cap dros ei wlad.

Roedd rhai wedi disgwyl y byddai’n chwarae i Gymru am y tro cyntaf ers 2019 yr hydref hwn ar ôl dechrau’r tymor yn dda gyda’r Scarlets.