Mae Isaak Davies, asgellwr dan-21 Cymru, yn gobeithio gwneud argraff ar lefel ryngwladol, a hynny ar ôl torri mewn i dîm Caerdydd y tymor hwn.

Mae’n gobeithio chwarae yng ngêm ragbrofol Pencampwriaeth Ewrop Cymru yn erbyn Gibraltar.

Ef wnaeth greu’r gôl fuddugol i Gaerdydd yn erbyn Huddersfield y penwythnos diwethaf.

Dyma oedd ail gêm y chwaraewr 20 oed i’r Adar Gleision ar ôl gwneud ei ymddangosiad cyntaf yng ngêm olaf Mick McCarthy wrth y llyw fis diwethaf.

“Mae’n rhaid fy mod i wedi gwylio’r fideo tua 1,000 o weithiau,” meddai Davies.

“Dwi mewn hwyliau gwych ar ôl y penwythnos.

“Roedd o’n brofiad gwych i mi.”

Bydd yn gobeithio dechrau i Cymru Dan-21 am y tro cyntaf nos Wener ar ôl dod oddi ar y fainc yn erbyn yr Alban a Bwlgaria.

Mae’n dweud bod gweld chwaraewyr ifanc eraill Caerdydd, megis Rubin Colwill a Mark Harris, yn ymuno â charfan dynion Cymru yn galonogol.

Mae chwaraewyr ifanc eraill megis Kieron Evans, Sam Bowen and Eli King wedi torri mewn i dîm cyntaf Caerdydd eleni hefyd.

“Mae’n helpu,” meddai.

“Pan weles i Rubin yn gwneud yn dda, Kieron yn dechrau dwy gêm, fe wnaeth fy ngwthio i geisio cael cyfle i chwarae a dangos beth alla i wneud.

“Mae dau o’r grwpiau oedran yng Nghaerdydd wedi bod yn eithaf cryf ac mae’n dda dangos bod yr holl waith caled yn talu ar ei ganfed.

“Mae ’na lwyth o dalent yng Nghymru ac ry’n ni’n lwcus bod ’na lwybr lle gallwn ni fynd i fynegi ein hunain.”

Bydd Cymru yn gobeithio gwella ar ei safle yn y grŵp yn erbyn Gibraltar – sy’n olaf – ar ôl colli oddi cartref yn erbyn Moldofa a’r Iseldiroedd y mis diwethaf.