Bydd Thomas Young yn chwarae ei gêm gyntaf yn Stadiwm y Principality ddydd Sul (14 Tachwedd), 20 mlynedd ar ôl rhedeg allan fel masgot yng Nghaerdydd.

Fe wnaeth blaenasgellwr tîm y Wasps helpu ei dad, Dai, i ddathlu ei hanner canfed cap i Gymru yn 2001 drwy redeg allan ar y cae gyda’i frodyr a’i dad cyn gêm yn erbyn Iwerddon.

Ddydd Sul, bydd Thomas Young yn rhedeg allan yng Nghaerdydd am y tro cyntaf ar gyfer y gêm yn erbyn Fiji.

Mae ganddo dri chap dros Gymru, ond cafodd y tair gêm hynny eu chwarae yn Auckland, Apia a Rhufain.

“Yn amlwg dw i wedi bod yno’n gwylio gemau, ond dydw i erioed wedi chwarae yno,” meddai Thomas Young. “Dw i’n meddwl fy mod i wedi hyfforddi ar y cae unwaith, falle.

“Dw i erioed wedi chwarae yno, hyd yn oed ar lefel clwb. Mae fy nghefnder wedi chwarae yno fwy nag ydw i, a dyw e ddim yn gadael i hynny fynd, felly gobeithio’r penwythnos hwn y bydd e’n gallu stopio siarad am hynny!

“Dw i’n cofio’r sŵn wrth redeg allan – mae hynny’n aros yn y cof, yn sicr.”

“Wrth fy modd”

Gan fod Thomas Young yn chwarae ei rygbi yn Lloegr, a heb ennill 60 cap neu fwy, ni fyddai wedi gallu cael ei ystyried ar gyfer chwarae i Gymru ychydig wythnos yn ôl, dan bolisi Undeb Rygbi Cymru.

Fodd bynnag, gan ei fod am symud i Gaerdydd tymor nesaf, roedd gan brif hyfforddwr Cymru, Wayne Pivac, yr hawl i’w ddewis ar gyfer carfan Cymru.

“Fis yn ôl, mae’n debyg nad oeddwn i’n credu ei fod yn bosib,” meddai Thomas Young wrth siarad am gael ei ddewis i Gymru.

“Roeddwn i’n amlwg yn gwybod pa sefyllfa y byddwn i ynddi pan wnes i ailarwyddo gyda’r Wasps. Ond, er ei fod yn rhwystredig, roedd rhaid i mi gael fy mhen rownd hynny a chario ymlaen.

“Mae pawb yn dweud yr un fath, fod pawb eisiau chwarae i’w gwlad wrth dyfu fyny. Roeddwn i’n gwybod na allwn i wneud hynny wrth aros yn Lloegr.

“Mae hi fyny i fi drio a chymryd fy nghyfle. Dw i wrth fy modd, â bod yn onest.

“Fel dw i’n dweud, fis yn ôl fyddwn i heb ddisgwyl i hyn ddigwydd. Dw i wedi fy nghyffroi’n arw am hyn, a dw i jyst eisiau gwneud yn siŵr fy mod i’n cymryd y cyfle yn y ffordd orau alla i.”

“Cyfle wedi’i fethu”

Chwaraeodd Thomas Young i Gymru am y tro diwethaf yn erbyn yr Eidal ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2019 – ond gan ei fod wedi bod yn chwarae’n dda yn gyson i’r Wasps, parhaodd Pivac i dalu sylw.

“Dw i wedi bod yno [gyda’r Wasps] ers wyth mlynedd ac wedi rhyw fath o dyfu fyny yno, felly mae gen i lot o ffrindiau a lot o barch at bawb yn y clwb,” meddai Thomas Young.

“Dw i wedi bod yno mor hir nawr, dw i wedi datblygu yno. Bydd hi’n anodd gadael, ond mae’n rhywbeth roedd rhaid i mi ei wneud.

“Dros yr wyth neu naw mlynedd dw i wedi bod gyda’r Wasps, dw i wedi bod yn dysgu’n gyson.

“Dw i wedi bod ddigon ffodus i chwarae gyda chwaraewyr o dros y byd i gyd, a phigo pethau yma ac acw ganddyn nhw. Dw i wedi elwa ohono, yn bendant.

“Dw i wedi cyrraedd pwynt, pe na bawn i’n penderfynu dod yn ôl [i Gymru] byddai’n gyfle wedi’i fethu, dw i’n meddwl.”