Bydd yna bendant le i Gymru yn gemau ail gyfle Cwpan y Byd, wedi i Sbaen guro Gwlad Groeg 1-0 neithiwr (11 Tachwedd).

Dyma’r tro cyntaf i Gymru gymhwyso ar gyfer y gemau ail gyfle ers 1958, pan aethon nhw yn eu blaenau i chwarae yng Nghwpan y Byd.

Fe wnaeth Cymru ddechrau eu hymgyrch i gymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd yn gwybod eu bod nhw bron iawn â sicrhau eu lle yn y gemau ail gyfle, ar ôl gorffen yn gyntaf yn eu grŵp yng Nghynghrair y Cenhedloedd.

Hyd yn oed os nad yw Cymru’n gorffen yn gyntaf neu’n ail yn eu grŵp yn y gemau rhagbrofol, bydden nhw dal drwodd i’r gemau ail gyfle.

Pe bai Cymru’n cael pedwar pwynt yn eu dwy gêm ragbrofol derfynol, yn erbyn Belarws yfory a Gwlad Belg ddydd Mawrth, yna bydden nhw’n siŵr o orffen yn gyntaf neu’n ail yn eu grŵp.

Bydd y gêm yn erbyn Belarws yng Nghaerdydd yn dechrau am 7:45 nos fory (13 Tachwedd) ac yn fyw ar S4C.

Cyfle olaf i genhedlaeth euraidd Cymru chwarae yng Nghwpan y Byd?

“Chwarae mewn Cwpan y Byd yw’r un peth ar frig y rhestr rydw i eisiau ei chyflawni” meddai Joe Allen