Mae Joe Allen yn derbyn ei bod hi’n debyg mai dyma fydd y cyfle olaf i “genhedlaeth euraidd” Cymru chwarae yng Nghwpan y Byd.

Mae Cymru’n gorffen eu hymgyrch ragbrofol yng Nghwpan y Byd 2022 gyda gemau cartref yn erbyn Belarws a Gwlad Belg yn yr wythnos nesaf ac mae angen pedwar pwynt i sicrhau lle yn y gemau ail-gyfle.

Curodd Cymru Belarws o 3-2 ym mis Medi gyda Gareth Bale yn sgorio hatric a’r gôl fuddugol ym munudau olaf y gêm.

Fe allen nhw fynd i’r gêm olaf yn erbyn Gwlad Belg gyda’r ymwelwyr eisoes wedi cymhwyso ar gyfer Qatar y gaeaf nesaf.

Byddai gorffen yn ail yn sicrhau gêm ail gyfle gartref i Gymru, er ei bod hi’n debygol y byddan nhw’n cael gêm ail gyfle oddi cartref beth bynnag, ar ôl ennill eu grŵp yng Nghynghrair y Cenhedloedd.

Ar hyn o bryd maen nhw yn y trydydd safle, y tu ôl i’r Weriniaeth Tsiec ond gyda gêm mewn llaw cyn gemau cartref yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Mae Qatar 2022 yn debygol o fod y cyfle olaf i Joe Allen, Aaron Ramsey a Gareth Bale berfformio ar lwyfan mwyaf pêl-droed.

Mae’r triawd wedi chwarae i Gymru mewn dwy Bencampwriaeth Ewropeaidd, ond bydd y tri yn eu 30au canol erbyn Cwpan y Byd 2026.

“Chwarae mewn Cwpan y Byd yw’r un peth ar frig y rhestr rydw i eisiau ei chyflawni,” meddai Joe Allen.

“Mae Gareth ac Aaron yn ddau chwaraewr sy’n perthyn ar y llwyfan hwnnw.

“Yn sicr o ran eu gallu yn unig, a hefyd o ran yr hyn maen nhw wedi’i wneud mewn pêl-droed rhyngwladol ers blynyddoedd.

“Maen nhw wedi dangos safon anhygoel ac rwy’n credu y byddai’n addas pe bydden nhw’n cael y cyfle hwnnw.”