Martyn Phillips, cyn-brif weithredwr Undeb Rygbi Cymru, yw cadeirydd newydd Premiership Rugby yn Lloegr.

Fe fydd e’n olynu Andy Higginson, ac yn cydweithio â’r prif weithredwr newydd, Simon Massie-Taylor.

Treuliodd Phillips bum mlynedd yn arwain Undeb Rygbi Cymru tan y llynedd.

Wrth dalu teyrnged i Andy Higginson, dywed Premiership Rugby ei fod e wedi “cynnig arweiniad cryf i’r gynghrair a’i chlybiau wrth iddyn nhw fynd i’r afael â heriau Covid-19 dros y ddwy flynedd ddiwethaf”.

Maen nhw’n dweud bod y gynghrair “wedi dod allan o’r argyfwng yn gynghrair gref, fywiog gyda rhai o’r chwaraewyr a chlybiau rygbi gorau yn y byd”.

‘Cyfle sylweddol’

“Mae yna gyfle sylweddol i Premiership Rugby barhau i ddatblygu’r twrnament a’i hawliau masnachol i’w potensial llawn,” meddai Martyn Phillips.

“Dw i wedi cyffroi’n fawr ynghylch y rôl newydd yma, ac yn edrych ymlaen at gydweithio â Simon a’i dîm, y clybiau, y perchnogion a’r buddsoddwyr yn ystod y blynyddoedd i ddod.”