Bydd Alex Cuthbert yn chwarae i Gymru am y tro cyntaf ers pedair blynedd yn erbyn Ffiji ddydd Sul (14 Tachwedd).

Nid yw’r asgellwr – sy’n chwarae i’r Gweilch – wedi chwarae ar y llwyfan rhyngwladol ers mis Tachwedd 2017.

Mae Wayne Pivac, prif hyfforddwr Cymru, yn dweud ei fod yn “edrych i’r dyfodol”, gyda Josh Adams yn chwarae fel canolwr am y tro cyntaf i Gymru.

Bydd Liam Williams yn dychwelyd fel cefnwr, tra bod Kieran Hardy yn safle’r mewnwr a Johnny Williams yn bartner i Josh Adams yn y canol.

Mae blaenasgellwr Wasps, Thomas Young, yn dychwelyd i’r tîm fel yr unig newid ymhlith y blaenwyr.

Ellis Jenkins fydd yn gapten ar Gymru yn absenoldeb Alun Wyn Jones, wnaeth ddioddef anaf yn erbyn Seland Newydd.

Mae Dan Biggar yn cadw ei le fel y maswr, ac mae’n bosib y bydd Christ Tshiunza, blaenwr Caerwysg, yn ennill ei gap cyntaf wrth iddo sicrhau lle ar y fainc.

Bydd y gic gyntaf am 3:15 o’r gloch ddydd Sul yn Stadiwm Principality.

“Rydyn ni am allu defnyddio’r garfan lle gallwn ni, ond yn nhermau’r blaenwyr does dim llawer o ddewis gyda ni oherwydd anafiadau ac argaeledd,” meddai Wayne Pivac.

“Yr un cyffrous i mi yw rhoi cyfle i Josh Adams (fel canolwr).

“Mae hynny yn edrych i’r dyfodol.

“Pan mae’n rhaid i chi ddewis carfan o 33 ar gyfer Cwpan y Byd mae’n rhaid i chi gael chwaraewyr sy’n medru chwarae mewn mwy nag un safle.

“Rydyn ni wedi bod eisiau gwneud hynny ers tro felly gawn ni weld sut y bydd Josh yn ymdopi yng nghanol cae.

“Mae dod ag Alex Cuthbert i mewn ynghyd â Louis Rees-Zammit yn ymateb i’r cyflymder sydd gan Fiji, ac mae’n rhaid i ni fedru ymdopi â hynny hefyd.”

Tîm Cymru

Liam Williams; Alex Cuthbert, Josh Adams, Johnny Williams, Louis Rees-Zammit; Dan Biggar, Kieran Hardy; Rhys Carre, Ryan Elias, Tomas Francis; Will Rowlands, Adam Beard; Ellis Jenkins, Thomas Young, Taine Basham.

Eilyddion

Bradley Roberts, Gareth Thomas, WillGriff John, Christ Tshiunza, Seb Davies, Tomos Williams, Callum Sheedy, Nick Tompkins.