Mae Joe Allen wedi talu teyrnged i ddylanwad Gary Speed ar garfan bêl-droed bresennol Cymru.

Bu farw ar Dachwedd 27, 2011 ac mae fory (dydd Gwener, Tachwedd 12) yn nodi degawd ers ei gêm olaf wrth y llyw, sef gêm gyfeillgar a buddugoliaeth o 4-1 yn erbyn Norwy.

Cafwyd hyd iddo’n farw yn ei gartref yn 42 oed ychydig dros bythefnos yn ddiweddarach.

Enillodd Speed 85 o gapiau dros ei wlad cyn mynd yn ei flaen i’w rheoli.

“Mae’n anodd credu ei bod hi’n ddeng mlynedd, wir,” meddai Joe Allen.

“Mae llawer o’r bois yn dal i siarad am Gary, y dylanwad gafodd e arnon ni fel chwaraewyr ifainc pan oedd e’n rheolwr.

“Fe wnaeth e ailwampio llawer o bethau, nid dim ond ar y cae ond oddi arno hefyd, ac rydyn ni wedi elwa o hynny.

“Dyna un o’r rhesymau mawr pam fod pêl-droed yng Nghymru wedi bod mewn lle mor iach dros y degawd diwethaf.”

Gwaddol

Er mai ychydig iawn o amser dreuliodd e’n rheolwr, mae Gary Speed yn cael ei ganmol a’i gofio am roi Cymru ar y trywydd cywir.

Roedden nhw’n rhif 112 ar restr ddetholion FIFA adeg ei benodi, ond lai na phum mlynedd yn ddiweddarach, roedden nhw’n cymryd rhan yn yr Ewros yn Ffrainc, gan gyrraedd y rownd gyn-derfynol o dan reolaeth ei ffrind Chris Coleman.

Dyna’r tro cyntaf iddyn nhw gyrraedd un o gystadlaethau mawr y byd pêl-droed rhyngwladol ers 58 o flynyddoedd.

Aethon nhw yn eu blaenau wedyn i gyrraedd Ewro 2020, a chyrraedd rownd yr 16 olaf.

Mae angen pedwar pwynt arnyn nhw yn eu hymgyrch ddiweddaraf i gyrraedd Cwpan y Byd 2022, gan wynebu Belarws a Gwlad Belg yr wythnos hon.

O blith y garfan bresennol, fe wnaeth Allen, Gareth Bale, Aaron Ramsey, Chris Gunter a Wayne Hennessey chwarae yng ngharfan Gary Speed.

“Bydd Gary yn ein meddyliau am byth,” meddai Allen.

“Roedd e’n rhan o ddechrau ein taith ni, yn gyntaf ar gyfer Ewro 2016 a phopeth sydd wedi dod ers hynny.

“Roedd [diwrnod ei farwolaeth] yn ddiwrnod erchyll, yn amlwg i unrhyw un oedd yn ei adnabod e, ond hefyd i’r byd pêl-droed.

“Roedd yn newyddion anodd iawn i’w brosesu, yn drist iawn ac yn ddryslyd iawn.”

Gwenu

Yn ôl y golwr Wayne Hennessey, roedd e bob amser yn gwenu ac mae’n ceisio ei gofio’n sefyll ar yr ystlys yn ystod gemau.

“Roedd e’n arweinydd gwych i ni ac roedd e’n arfer siarad mor dda,” meddai.

“Dw i wir yn credu mai dyna dechrau’r llwybr oedd wedi ein gwneud ni mor llwyddiannus ac wedi ein rhoi ni lle’r ydyn ni heddiw.

“Roedd e’n rheolwr anhygoel ac mae’n haeddu clod am hynny.

“Unwaith ddaeth e’n rheolwr, fe ddechreuodd e lwybr gwahanol i ni.

“Roedden ni’n symud yn y cyfeiriad iawn.

“Roedden ni mor drist i glywed y newyddion, a dw i’n dalu i dagu ychydig bach am y peth nawr.”