Mae Clwb Pêl-droed Abertawe yn gwadu eu bod nhw wedi derbyn cais gan Glasgow Rangers i siarad â Russell Martin.
Mae lle i gredu bod Rangers ar fin colli eu rheolwr Steven Gerrard i Aston Villa, sy’n awyddus i benodi cyn-chwaraewr canol cae Lerpwl yn olynydd i Dean Smith a gafodd ei ddiswyddo yr wythnos hon.
Chwaraeodd rheolwr Abertawe i dîm glas Glasgow yn ystod ei yrfa, ac mae e wedi bod yn denu cryn sylw yn sgil perfformiadau’r Elyrch yn ddiweddar.
Mae Martin wedi’i enwebu ar gyfer Rheolwr y Mis ar gyfer mis Hydref, ar ôl i’r Elyrch ennill tair gêm, gan gynnwys y ddarbi yn erbyn Caerdydd, ac fe gawson nhw un gêm gyfartal gan golli un arall.
Maen nhw wedi dringo tabl y Bencampwriaeth i’r deuddegfed safle erbyn hyn.
Roedd Russell Martin yn cael ei gysylltu â swydd un arall o’i hen glybiau, Norwich, yn ddiweddar ond mae’r sïon hynny wedi tawelu erbyn hyn.