Byddai Gareth Bale wedi cael mwy o barch pe bai’n Sais, yn ôl Joe Ledley, sydd wedi disgrifio’r ymosodwr fel chwaraewr gorau ei genhedlaeth ledled gwledydd Prydain.

Mae disgwyl i Bale ennill ei ganfed cap dros Gymru yn erbyn Belarws ddydd Sadwrn (Tachwedd 13), ar ôl gwella o anaf i linyn y gâr sydd wedi ei gadw allan ers deufis.

Mae e ym mlwyddyn olaf ei gytundeb gyda Real Madrid, ac mae disgwyl iddo adael Sbaen yn yr haf ar ôl wyth mlynedd.

Yn ystod y cyfnod hwnnw, daeth yn chwaraewr druta’r byd, ac mae e wedi ennill Cynghrair y Pencampwyr bedair gwaith, Cwpan Clybiau’r Byd dair gwaith, cynghrair LaLiga ddwywaith a Copa del Rey unwaith.

Cafodd ei enwi’n Chwaraewr y Flwyddyn Cymdeithas y Chwaraewr Proffesiynol (PFA) ddwywaith yn ystod ei gyfnod gyda Spurs.

Mae e wedi sgorio goliau tyngedfennol wrth i Real Madrid ennill prif gystadleuaeth Ewrop, gyda chyfanswm o dros 100 o goliau i’r clwb.

‘Lefel hollol wahanol’

“Os edrychwch chi ar ei CV a’r hyn mae e wedi’i ennill a’i berfformiadau unigol, yn Tottenham a Madrid, yna fe yw chwaraewr Prydeinig gorau ei genhedlaeth o bell ffordd,” meddai Joe Ledley wrth y Press Association.

“A yw e’n cael digon o glod? Nac ydy, yn sicr.

“Dw i’n credu, pe bai e’n Sais, y byddai wedi cael llawer mwy o glod.

“Edrychwch ar yr hyn mae rhywun fel Jack Grealish yn ei gael gan y wasg. Ond mae Bale ar lefel hollol wahanol.

“O fod yn Gymro, dydych chi ddim yn cael y clod yna mae’r chwaraewyr Seisnig yn ei gael.”

Carreg filltir

Wrth ennill ei ganfed cap, Bale fydd yr ail chwaraewr yn hanes Cymru i gyrraedd y garreg filltir honno.

Dechreuodd ei yrfa ryngwladol gyda gêm gyfeillgar yn Awstria yn 2006.

Yn 16 oed, daeth yn chwaraewr rhyngwladol ieuengaf Cymru, ac fe aeth yn ei flaen i serennu mewn gêm yn erbyn Trinidad & Tobago wrth greu gôl fuddugol Rob Earnshaw.

“Gallech chi weld bod y doniau oedd ganddo fe’n frawychus,” meddai Ledley.

“Roedd ganddo fe chwip o droed chwith ac roedd ei basio a’i groesi’n anhygoel.

“Roedd e mor gyflym hefyd. Weithiau gyda chwaraewyr cyflym, mae’r bêl olaf honno’n eu gadael nhw lawr, ond peli Gareth oedd y gorau.

“Doedd ond angen yr hyder yna ar oedran ifanc ac roedd e’n barod am y cam nesaf wedyn.”