Mae tîm rygbi Cymru’n “barod am unrhyw beth” wrth iddyn nhw herio Ffiji yng Nghaerdydd ddydd Sul (Tachwedd 14), yn ôl y mewnwr Kieran Hardy.

Mae Cymru wedi ennill deg allan o’r 12 gêm diwethaf yn erbyn y dynion o Ynysoedd y De – gan golli yn 2007 i ddod â’u Cwpan y Byd i ben, a gorffen yn gyfartal yn 2010.

Ond saith pwynt yn unig oedd ynddi mewn pedair o’r gemau, gan gynnwys buddugoliaeth o 11-10 yn 2005.

Roedd Ffiji ar y blaen o 10-0 ar ddechrau’r gêm ddiwethaf rhyngddyn nhw yn 2019, ond tarodd Cymru yn ôl i ennill yn y pen draw.

Ffiji fydd gwrthwynebwyr cyntaf Cymru yng Nghwpan y Byd 2023, ac maen nhw’n cael eu hyfforddi gan y Cymro Gareth Baber, oedd wedi arwain y wlad i fedal aur Olympaidd yn Tokyo.

Corfforol a symud y bêl yn gyflym

“Rydyn ni’n gwybod eu bod nhw’n dîm sy’n eithaf corfforol ac yn arbennig o hoff o ddadlwytho’r bêl a chwarae mewn tu ôl,” meddai Hardy, fydd yn ennill ei wythfed cap dros Gymru.

“Rydyn ni’n barod am unrhyw beth y penwythnos hwn.

“Rydyn ni wedi ymarfer ar gyfer pob senario.

“Rydyn i’n gwybod beth sydd i ddod aton ni.

“Gallan nhw fod yn anrhagweladwy ar adegau, ond bydd rhaid i ni addasu i’r sefyllfaoedd wrth iddyn nhw godi.

“Yn gynnar, byddwn ni’n ceisio rhoi pwysau arnyn nhw a chwarae am diriogaeth, ac yn amlwg mae gyda ni gynllun ar gyfer y gêm o ran sut rydyn ni eisiau chwarae.

“Rydyn ni eisiau lledu tipyn a chymryd cyfleoedd wrth i ni eu gweld nhw.

“Bydd yn fater o adeiladu ein hunain i mewn i’r gêm.

“Ond yn y pen draw, rydyn ni wedi siarad am y perfformiad a cheisio cael canlyniad.

“Roedden ni’n brin ohoni y penwythnos diwethaf [yn erbyn De Affrica], ac mae’r bois yn ysu i gael buddugoliaeth.”

Mân newidiadau i’r garfan

Yn y cyfamser, mae canolwr y Scarlets Scott Williams wedi cael ei ryddhau o garfan Cymru.

Roedd wedi ymuno â’r garfan ar ôl i Willis Halaholo brofi’n bositif am Covid-19.

Ond gyda Halaholo yn ail ymuno â’r garfan, bydd Williams yn dychwelyd at ei ranbarth.

Mae’r gŵr 31 oed wedi ennill 58 cap dros ei wlad.

Roedd rhai wedi disgwyl y byddai’n chwarae i Gymru am y tro cyntaf ers 2019 yr hydref hwn ar ôl dechrau’r tymor yn dda gyda’r Scarlets.

Scott Williams wedi cael ei ryddhau o garfan Cymru

Mae’r gŵr 31 oed wedi ennill 58 cap dros ei wlad