Mae Wayne Pivac, prif hyfforddwr tîm rygbi Cymru, wedi canu clodydd Ellis Jenkins a’i sgiliau arwain, ac yn dweud ei fod e wedi’i gyffroi ynghylch y blaenasgellwr ifanc Christ Tshiunza.
Mae Jenkins, oedd wedi bod allan o dîm Cymru ers tair blynedd cyn gemau’r hydref, wedi’i enwi’n gapten ar gyfer y gêm yn erbyn Ffiji yn absenoldeb Alun Wyn Jones.
Fe wnaeth e greu argraff yn y rheng ôl er i Gymru golli o 23-18 yn erbyn De Affrica ar ôl bod allan am 26 mis ag anaf i’w benglin.
Roedd yn gapten ar y tîm pan adawodd y canolwr Jonathan Davies y cae.
“Yn sicr, mae gan Ellis rinweddau arweinydd, rydyn ni’n gwybod hynny,” meddai Pivac.
“Mae ganddo fe’r gallu i fod yn gapten ar y tîm, ond y peth cyntaf sydd angen i chi ei wneud yw bod yn ddechreuwr rhif un, felly y peth mawr iddo fe ar hyn o bryd yw parhau i adeiladu ar ddychwelyd i’r gêm.
“Rydyn ni le’r ydyn ni gyda’r diffyg profiad arwain ac mae’r gapteniaeth yn benthyg ei hun iddo fe yr wythnos hon.
“Yn sicr, dydyn ni ddim yn credu y bydd yn amharu ar ei gêm.
“Mae e’n chwaraewr profiadol, mae e’n deall y gêm ac mae e’n gwneud penderfyniadau da.
“Mae e’n gyfathrebwr da, yn dda gyda dyfarnwyr ac yn gofyn cwestiynau da.
“Mae e wedi bod ac mi fydd e’n arwain fel chwaraewr dros Gymru eto wrth symud ymlaen.”
Christ Tshiunza
Un arall sydd wedi creu argraff ar Wayne Pivac yw’r blaenasgellwr 19 oed, Christ Tshiunza, sydd hefyd yn gallu chwarae yn yr ail reng.
Bydd e ymhlith yr eilyddion ar gyfer y gêm yn erbyn Ffiji ar ôl cael ei gyfle gyda’r brif garfan.
Yn ôl Wayne Pivac, fe allai serennu o fewn ychydig flynyddoedd, ac mae e wedi talu teyrnged i’w rhinweddau fel athletwr.
“Roedden ni eisiau dod â fe i mewn i’r gwersyll oherwydd, bob hyn a hyn, mae chwaraewr fel fe yn dod, a po fwyaf o amser rydych chi’n ei dreulio gyda nhw ac yn eu datblygu nhw, gorau oll iddyn nhw.
“Mae e mewn lle eithaf da ar hyn o bryd yng Nghaerwysg, ac fe fydd e’n dysgu tipyn yno hefyd.
“Os edrychwch chi ar yr hyn sydd i ddod gyda Chwpan y Byd 2023, 2027 a 2031, o ran y bois sy’n 19 neu’n 20 oed, does dim rheswm os ydyn nhw’n gofalu amdanyn nhw eu hunain ac yn parhau i ddysgu na allen nhw fod yn rhan o dri Chwpan Byd.
“O fynd i Gwpan y Byd gyda 33 o chwaraewyr, mae’n rhaid i chi gael chwaraewyr sy’n gyfnewidiol ac sy’n gallu chwarae mewn mwy nag un safle.
“Rydyn ni eisiau cael yr hyn y byddwn i’n ei ddisgrifio fel hybrid – rhywun sy’n gallu chwarae fel clo a rhif chwech.”