Yn 32 oed, mae Gareth Bale wedi treulio hanner ei oes yn chwarae dros ei wlad… a bu yn was ffyddlon ar y naw.

Fe gafodd ei flas cyntaf ar bêl-droed rhynwgladol yn 2006, ac yntau ond yn llanc 16 oed a’r fengaf erioed, bryd hynny, i gynrychioli ei wlad.

Fe lwyddodd i greu gôl i Robert Earnshaw wrth i Gymru drechu Trinidad a Tobago mewn gêm gyfeillgar.

Bu gemau cofiadwy rif-y-gwlith ers hynny, a bellach Bale sydd wedi sgorio’r nifer fwyaf o goliau tros Gymru – 36.

Cyn-ymosodwr Lerpwl a Juventus, Ian Rush, sydd yn yr ail safle gyda 28 gôl dros ei wlad.

A rhaid bod Gareth Bale yn llygadu mwy o goliau wrth iddo wynebu’r posibilrwydd o ennill i ganfed cap wrth i Gymru herio Belarws yng Nghaerdydd nos yfory.

Felly mae hi’n amserol iawn i fwrw golwg yn ôl ar rai o goliau gorau Gareth Bale yn y crys coch…

Cymru 2-1 Yr Alban, Hydref 2012

Roedd Cymru ar ei hôl hi 1-0 mewn gêm ragbrofol ar gyfer Cwpan y Byd, gydag ond deg munud i fynd.

Ond wele Gareth Bale yn gafael yn y gêm gerfydd ei gwar, yn ennill cic o’r smotyn a’i sgorio hi… ac yna ennill y gêm yn y funud olaf gyda rhediad ac ergyd rymus i gornel ucha’r rhwyd.

Am ddrama!

Andorra 1-2 Cymru, Medi 2014

Roedd Cymru mewn twll draw yn Andorra, yn cael gêm gyfartal 1-1 gydag un o dimau gwana’r byd.

Gyda Bale eisoes wedi penio i ddod â’r Cymry yn gyfartal yn yr hanner cyntaf, fe rwydodd gydag un o’i giciau rhydd anhygoel gydag ond naw munud yn weddill o gêm ragbrofol yr oedd yn rhaid ei hennill er mwyn cyrraedd Ewro 2016.

Gwefreiddiol!

Cymru 1-0 Gwlad Belg, Mehefin 2015

Cofio hon?! Gareth Bale yn gweld ei gyfle yn dilyn peniad sâl gan Nainggolan, gan reoli’r bêl ar ei frest a’i phasio yn gelfydd drwy goesau’r golwr i gefn y rhwyd. Cymru yn trechu un o dimau gorau’r byd ar noson gofiadwy yng Nghaerdydd.

Yr arch assasin ar ei orau!

Cyprus 0-1 Cymru, Medi 2015

Roedd y Cymry yn hwylio’n agos i’r gwynt ac mewn perygl o gael gêm ddi-sgôr ar y lôn.

Ond gydag wyth munud i fynd, dyma’r dyn ei hun yn llamu fel eog ar y postyn cefn i benio croesiad Jazz Richards i gefn y rhwyd, gan sicrhau triphwynt gwerthfawr arall ar y ffordd i Ffrainc ac Ewro 2016.

Achubiaeth!

Cymru 2-1 Slofacia, Mehefin 2016

Ar ôl aros 58 o flynyddoedd i gael chwarae mewn trwnament rhyngwladol, pwy arall ond Gareth Bale oedd am sgorio ein gôl gyntaf yn Ewro 2016?

Roedd gôlgeidwad Slofacia dros y siop wrth i Bale daro ergyd o gic rhydd 25 llath o’r pyst, a honno yn gwyro a thwyllo’r golwr yn llwyr.

Fe fyddai arwr Cymru yn mynd yn ei flaen i sgorio ym mhob un o gemau’r grŵp.

Dewin!

Belarws 2-3 Cymru, Medi 2021

Roedd Bale wedi bod bron i ddwy flynedd heb gôl mewn 17 o gemau rhyngwladol cyn wynebu Belarws oddi cartref yn Rwsia… roedd rhai yn amau ei bod yn ffinito arno. Na, no, nefar!

Fe sgoriodd hat-trig yn Kazan a’r olaf o’r goliau ganddo yn dod yn nwfn fewn i amser ychwanegol, wrth iddo gladdu croesiad Daniel James a sbarduno dathliadau gwyllt mewn stadiwm wag.

Melys moes mwy!