Bydd cefnogwyr Cymru yn cael gweld Josh Adams yn chwarae yn safle’r canolwr am y tro cyntaf pan fydd Cymru yn herio Ffiji yn nhrydedd gêm Cyfres yr Hydref ddydd Sul (14 Tachwedd).

Mae’r gic gyntaf am 3.15 y pnawn ac mae modd ei gwylio hi ar Amazon Prime, neu gall pobol weld yr uchafbwyntiau ar S4C am 6.30 yr hwyr.

Ar ôl colli dwy gêm yn olynol yn erbyn Seland Newydd a De Affrica, bydd tîm Wayne Pivac yn ceisio ymateb cyn herio Awstralia’r penwythnos nesaf.

Mae Cymru wedi curo Ffiji 10 gwaith mewn 12 ymgais, gydag un gêm gyfartal a cholli unwaith yng Nghwpan y Byd 2007.

Un o’r pwyntiau trafod mwyaf wrth edrych ymlaen at y gêm yw’r ffaith bod Josh Adams yn dechrau yn safle’r canolwr.

Daw hyn ar ôl iddo chwarae 34 gwaith i Gymru ar yr asgell, a sgorio 17 cais.

Mae Wayne Pivac wedi egluro iddo wneud y penderfyniad gan edrych ymlaen at Gwpan y Byd 2023 lle bydd gwledydd yn cael mynd a charfan o 33 chwaraewr i Ffrainc.

Bydd fFiji yn wyliadwrus o dalent Josh Adams iddo sgorio hat-trig o geisiau yn eu herbyn yng Nghwpan y Byd 2019.

Christ Tshiunza i ennill ei gap cyntaf?

Un dyn allai ennill ei gap cyntaf yn erbyn Ffiji yw Christ Tshinuza, sy’n 19 oed.

Mae gan Gymru obeithion mawr am y gŵr sy’n gallu chwarae yn yr ail reng yn ogystal â’r rheng ôl.

Cafodd ei eni yn DR Congo cyn symud i Gymru yn 2010.

Gallai’r gêm yn erbyn Ffiji fod yn ddechrau ar yrfa ryngwladol ddisglair.

‘Cadwch oddi ar y cae!’

Cafodd gemau Stadiwm Principality Cymru yn erbyn Seland Newydd a De Affrica eu heffeithio gan bobol yn rhedeg ar y cae.

Safodd dyn ochr yn ochr â chwaraewyr y Crysau Duon cyn anthem genedlaethol Seland Newydd.

Yr wythnos wedyn cafodd dyn ei wahardd am oes ar ôl rhedeg ar y cae wrth i Gymru ymosod hanner ffordd drwy’r ail hanner yn erbyn y Springboks.

Dywedodd rheolwr Stadiwm Principality, Mark Williams: “Mae’n hynod siomedig meddwl bod y profiad traddodiadol o ddiwrnod gêm dan fygythiad yn sgil yr hyn sydd wedi digwydd yn ddiweddar.

“Gallem gael ein gorfodi i edrych ar fesurau ychwanegol a fydd yn effeithio ar brofiad y cefnogwyr yn y dyfodol.”