Llwyddodd Casnewydd i sicrhau trydedd buddugoliaeth yn olynol ar ddiwedd y gêm yn erbyn Hartlepool neithiwr (nos Wener 12 Tachwedd).

Dri munud i mewn i amser anafiadau cafodd y bêl ei phenio i’r rhwyd gan yr ergydiwr Dom Telford i ddod â’r sgôr derfynol i 2-1.

Roedd yr Alltudion yn rheoli’r hanner cyntaf, gan ddod ar y blaen gyda chic gornel fedrus gan y capten Matty Dolan yn galluogi Courtney Baker-Richardson i’w phenio i’r rhwyd.

Chwaraeodd y tîm cartref yn llawer gwell ar ôl hanner amser, ac ar ôl 63 munud llwyddodd David Ferguson i sgorio gyda chic rydd i gornel uchaf y gôl.

Parhaodd y gêm yn gyfartal wedyn i’r diwedd un nes i’r Alltudion sicrhau eu tri phwynt.