Mae tîm dan 21 oed Cymru’n dathlu ar ôl eu buddugoliaeth fwyaf erioed wrth chwalu Gibraltar 7-0 oddi cartref neithiwr (nos Wener 12 Tachwedd).

Yn y gêm gymhwyso ar gyfer Euro 2023, llwyddodd Joe Adams i sgorio dwy gôl, gydag Owen Beck, Luke Jephcott, Daniel Williams, Terry Taylor a Ryan Astley hefyd yn sgorio gôl yr un.

Owen Beck, cefnwr chwith Lerpwl, a gor-nai Ian Rush, a roddodd gychwyn arni i Gymru gyda gôl ar ôl 13 munud.

Dyblodd JAdams y fantais gyda chic o’r smotyn dri munud wedyn, gyda Jephcott, ergydiwr Plymouth yn sgorio ei gôl gyntaf dros dîm dan 21 Cymru ar ôl 33 munud.

Gyda Chymru 3-0 ar y blaen hanner amser, ergydiodd Adams yn wych i sgorio eilwaith wedi’r egwyl, gyda Williams, Taylor ac Astley yn cwblhau’r grasfa yn y chwarter olaf.

Dyma ganlyniad gorau tîm dan 21 Cymru yn y 45 mlynedd ers ei sefydlu, gan ragori ar fuddugolaeth 6-2 yn erbyn Cyprus ac enillion 5-1 yn erbyn Lwcsembwrg ac Estonia.