Carys Phillips oedd seren gêm rygbi merched Cymru yn erbyn De Affrica y pnawn yma wrth i hatric ganddi sicrhau buddugoliaeth 29-19 ym Marc yr Arfau.
Roedd y perfformiad cryf yn erbyn y Sprinboks yn dilyn y fuddugoliaeth 23-5 yn erbyn Japan yr wythnos ddiwethaf – a orffennodd rediad dwy flynedd o golledion.
Cychwynnodd Cymru’n berffaith gyda Phillips yn sgorio ei chais cyntaf cyn i’r mewnwr Ffion Lewis gyfuno gyda’r rhif wyth Siwan Lillicrap oddi ar waelod y sgrym i ychwanegu ail gais.
Cododd cic gosb gan Elinor Snowsill y sgôr i 17-0 hanner amser a doedd dim ffordd yn ôl i’r ymwelwyr pan sgoriodd Phillips ei hail gais 11 munud i’r ail hanner.
Er i asgellwr y Sprinboks, Nomawethu Mabenge sgorio cais yn ôl, manteisiodd Cymru ar y cyfle pan gafodd Libbie Janse Van Rensburg ei gyrru i’r blwch cosbi am dacl uchel i alluogi Phillips i gwblhau ei hatric ar 68 munud.
Fe wnaeth trydydd trosiad Snowsill y sgôr yn 29-7, ond gorffennodd yr ymwelwyr y gêm gydag arddeliad, gan sgorio dau gais cysur trwy Zintle Mpupha a Van Rensburg.