Mae Wrecsam yn dathlu ar ôl sicrhau ail fuddugoliaeth ysgubol yr wythnos wrth chwalu King’s Lynn 6-2 y  pnawn yma.

Roedd hyn ar ôl iddyn nhw guro Aldershot 5-0 ganol yr wythnos.

Maen nhw’n aros yn y nawfed safle, ond dri phwynt y tu ôl i safleoedd gemau ail gyfle’r Gynghrair Genedlaethol.

King’s Lynn aeth ar y blaen i ddechrau gyda gôl gan Michael Clunan, cyn i Aaron Hayden benio’r bêl i’r rhwyd i unioni’r sgôr.

Rhoddodd Jordan Davies Wrecsam ar y blaen, a chynyddodd Paul Mullin eu mantais ar ôl cicio i rwyd agored.

Sgoriodd Jordan Ponticelli y bedwaredd, ac ar ôl i Malachi Linton daro’n ôl gydag ail gôl i King’s Lynn, seliwyd y fuddugoliaeth i Wrecsam gyda gôl yr un gan Dan Jarvis a Cameron Green.

Wrth siarad gyda’r BBC wedi’r gêm, meddai rheolwr Wrecsam, Phil Parkinson:

“Mae hi wedi bod yn wythnos wych inni. Rydym wedi bod yn glinigol iawn heddiw yn y ffordd rydym wedi manteisio ar ein cyfleoedd.

“Pob clod i’r bechgyn, dw i mor falch gyda’u perfformiad – fe wnaethon nid chwarae pêl-droed gwirioneddol gyffrous ac roedden ni bob amser yn edrych yn beryglus.”