Mae tîm pêl-droed Cymru wedi curo Belarws o 5-1 yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Roedd dwy gôl i Aaron Ramsey, a’r gweddill yn dod gan Neco Williams, Ben Davies a Connor Roberts.
Dyma’r tro cyntaf i Gymru sgorio mwy na phedair gôl ers iddyn nhw guro Tsieina o 6-0 yn 2018.
Daeth y chwaraewyr i’r cae yn gwisgo crysau ymarfer coch â’r geiriau “I David, I Dan” arnyn nhw, yn deyrnged i David Brooks a Dan Barden sy’n brwydro canser ar hyn o bryd.
Roedd Gareth Bale eisoes yn dathlu cyn y gic cyntaf, ac yntau’n ennill ei ganfed cap dros ei wlad, a dyma’r tro cyntaf iddo fe, Aaron Ramsey a Joe Allen chwarae gyda’i gilydd dros Gymru ers iddyn nhw herio Denmarc fis Tachwedd y llynedd.
Roedd Cymru eisoes yn sicr o’u lle yn y gemau ail gyfle yn sgil eu perfformiadau yng Ngynghrair y Cenhedloedd, ond mae’r canlyniad yn golygu y dylen nhw gael gêm dipyn haws wrth iddyn nhw geisio cyrraedd Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958.
Manylion y gêm
“Maen nhw’n deud nad oes neb eisiau gorffen yn ail. Dywedwch hynny wrth Gymru,” meddai’r sylwebydd Nic Parry ar S4C.
Ac fe ddaeth Cymru allan yn benderfynol o sgorio goliau.
Yn yr ail funud yn unig, daeth cic gornel i mewn i’r cwrt cosbi, gyda foli Ben Davies yn taro’r golwr Sergei Chernik ac yn adlamu’n ôl i lwybr Ramsey a hwnnw’n rhoi Cymru ar y blaen.
Gallai Cymru fod wedi dyblu eu mantais ar ôl deng munud, wrth i Connor Roberts daro chwip o ergyd ar draws y gôl a heibio’r postyn.
Ond doedd dim angen aros yn rhy hir am yr ail gôl, wrth i Neco Williams ddawnsio’i ffordd drwy’r amddiffyn yn dilyn camgymeriad amddiffynnol gan Felarws, ac fe wnaeth e fanteisio gan daro ergyd i’r gôl â’i droed dde a Chernik unwaith eto’n euog o gamgymeriad.
Treuliodd Cymru weddill yr hanner cyntaf yn chwilio am drydedd gôl wrth i’r perfformiad fynd o nerth i nerth, ac roedd rhwystredigaeth Belarws yn dechrau dangos ar adegau wrth iddyn nhw golli eu pwyll.
Mae’n bosib fod Belarws yn ffodus o orffen yr hanner gyda’u holl chwaraewyr, ar ôl i Nikolai Zolotov daro Ben Davies yn ei wyneb.
Ail hanner
Daeth Gareth Bale oddi ar y cae ar yr egwyl, gyda Brennan Johnson yn dod i’r cae yn ei le.
A doedd hi ddim yn hir cyn i Gymru ennill cic o’r smotyn, wrth i’r amddiffynnwr Ruslan Yudenkov lawio’r bêl, ac roedd Ramsey wrth law i ymestyn mantais ei wlad i dair gôl a’i gyfanswm goliau rhyngwladol i ugain.
Tro Ethan Ampadu oedd hi i golli disgyblaeth ar yr awr, ac mae ei gerdyn melyn am drosedd yn golygu na fydd e, fel Kieffer Moore heno, ar gael ar gyfer y gêm yn erbyn Gwlad Belg nos Fawrth (Tachwedd 16).
Daeth Ramsey oddi ar y cae ar ôl 70 munud i fonllef o gymeradwyaeth gan y Wal Goch, ac yntau bellach yn chweched ar restr prif sgorwyr Cymru, gan godi uwchben Craig Bellamy.
Un a sgoriodd ei gôl gyntaf dros ei wlad heno, serch hynny, yw Ben Davies yng ngêm rhif 68. Daeth y gôl oddi ar ei ysgwydd wrth iddo geisio penio o gic gornel gan Harry Wilson.
Yn ystod munud rhif 85, talodd y dorf deyrnged i’r diweddar Gary Speed fu farw ddegawd yn ôl, a hwnnw wedi ennill 85 o gapiau dros Gymru cyn mynd yn ei flaen i fod yn rheolwr a gosod y seiliau ar gyfer y llwyddiant a fu dros y degawd diwethaf.
Daeth gôl gysur i Felarws ar ôl 87 munud, wrth i Artem Kontsevoi sgorio’i gôl gyntaf dros ei wlad.
Erbyn hynny, roedd cadarnhad mai Gwlad Belg sydd wedi gorffen ar frig y grŵp ar ôl curo Estonia o 3-1.
Ond roedd Cymru’n benderfynol o gael y gair olaf ar y noson, wrth i Connor Roberts rwydo o gic gornel i’w gwneud hi’n 5-1 erbyn y chwiban olaf.
Ymateb
“Gwnaethon ni beth roedden ni eisiau ei wneud,” meddai Aaron Ramsey wrth Sky Sports.
“Roedden ni eisiau bod ar y droed flaen yn gynnar yn y gêm, ac roedden ni wedi llwyddo i wneud hynny.
“Byddwn ni nawr yn mynd â hynny i mewn i’r gêm nos Fawrth, fydd yn gêm enfawr.
“Rydyn ni jyst wedi cyffroi ein bod ni mewn sefyllfa nawr i orffen yn ail.
“Rydyn ni wedi cael brwydrau gwych yn erbyn Gwlad Belg dros y blynyddoedd, a gobeithio y gallwn ni gael un arall nos Fawrth.”
Yn y cyfamser, mae Gareth Bale wedi tawelu ofnau Cymru a’r cefnogwyr ynghylch ei ymadawiad ar yr egwyl.
“Y cynllun drwy’r amser oedd chwarae 45 (munud),” meddai.
“Yn amlwg, dw i wedi bod allan ers deufis a’r cynllun o’r dechrau, pe baen ni ar y blaen yn y gêm, oedd y byddwn i’n gadael ac yn ceisio bod yn barod ar gyfer nos Fawrth a gweld sut oeddwn i’n teimlo.
“Ro’n i’n hapus i gael y derbyniad cyn y gêm ac wedi mwynhau’r achlysur.
“Dw i’n hapus i fod yn ôl.
“Roedd hi’n anodd i ddod yn ôl o’r anaf ac roedd hi’n sicr yn werth gwneud hynny.”