Mae Tomas Francis, prop tîm rygbi Cymru, allan o’r gêm yn erbyn Ffiji yng Nghaerdydd heddiw (dydd Sul, Tachwedd 14), ar ôl dioddef cyfergyd.

Fe ddigwyddodd wrth i’r garfan ymarfer ddydd Gwener (Tachwedd 12).

Mae WillGriff John o’r Scarlets wedi cymryd ei le yn y garfan, ac fe fydd yn dechrau gêm brawf am y tro cyntaf.

Fe ddaeth John i’r cae yn eilydd yn erbyn De Affrica yr wythnos ddiwethaf i ennill ei gap cyntaf.

Dillon Lewis o Rygbi Caerdydd fydd yn ymuno â’r eilyddion.

Mae Cymru wedi colli o 54-16 yn erbyn Seland Newydd ac o 23-18 yn erbyn De Affrica yng ngemau’r hydref hyd yn hyn.

Cefnogwyr ar y cae

Yn y cyfamser, mae’r cefnwr Liam Williams yn dweud ei bod hi’n “annerbyniol” i gefnogwyr ddod ar y cae yn ystod gemau.

Fe wnaeth y digrifwr ‘Jarvo’, neu Daniel Jervis, sefyll ochr yn ochr â chwaraewyr Seland Newydd ar gyfer yr anthemau bythefnos yn ôl.

Yr wythnos ddiwethaf, camodd cefnogwr ar y cae wrth i Liam Williams ymosod yn erbyn De Affrica yr wythnos ddiwethaf, ac mae e wedi’i wahardd am oes rhag prynu tocynnau rygbi yn y stadiwm.

Roedd Williams yn rhedeg tuag at y llinell gais ar y pryd, ac fe gafodd ei dynnu i mewn i’r digwyddiad wrth i’r stiwardiaid dynnu’r dyn i’r llawr ar y cae.

Dyna’r ail waith mewn dwy gêm i gefnogwr lwyddo i gael mynediad i’r cae yn Stadiwm Principality.

“Ro’n i wedi ei weld e ac roedd e o fewn fy ngolwg achos ro’n i’n edrych o’m blaen,” meddai Liam Williams.

“Ro’n i’n mynd ar linell fer oddi ar Johnny McNicholl, ond wrth i fi edrych i fyny, roedd e ar y llawr fel rhan o dri o bobol yn rolio o gwmpas.

“Roedd rhaid i fi newid fy llinell wrth redeg a wnes i ddim cyrraedd y llinell gais. Dw i erioed wedi gweld hynny o’r blaen.

“Dw i wedi gweld y llun o’r awyr, ac roedd gan Dde Affrica gwpwl o fois yn dod draw.

“Allwch chi fyth dweud ie (y byddai Cymru wedi sgorio), oherwydd wnaeth e ddim digwydd. Dw i’n mynd i eistedd ar y ffens fan hyn.”

Diogelwch

“Ddylen nhw ddim bod yn dod ar y cae,” meddai.

“Mae pobol o amgylch y cae i’w gwneud hi’n ddiogel i ni chwarae.

“Dydy hi ddim yn dderbyniol i gefnogwyr ddod ar y cae yn ystod gêm yn Stadiwm Principality, a bod yn onest.

“Mae e wedi digwydd sawl gwaith nawr, a dydyn ni ddim eisiau ei weld e’n digwydd eto.”