Mae Clwb Criced Essex wedi ymateb i ymddiswyddiad eu cadeirydd a honiadau o hiliaeth gan gyn-chwaraewr.
Mae lle i gredu mai Zoheb Sharif, oedd yn chwarae i’r sir ar droad y ganrif, sydd wedi gwneud honiadau, gyda rhai papurau newydd yn dweud iddo gael ei alw’n “fomiwr” yn dilyn ymosodiadau brawychol 9/11.
Ac fe gamodd y cadeirydd John Faragher o’r neilltu ddydd Gwener (Tachwedd 12) ar ôl iddi ddod i’r amlwg ei fod e wedi gwneud sylwadau hiliol yn ystod cyfarfod bwrdd rai blynyddoedd yn ôl.
Daw’r honiadau yn dilyn ffrae yn Swydd Efrog, lle mae Azeem Rafiq wedi gwneud honiadau o hiliaeth sefydliadol yn erbyn y clwb.
‘Sioc a thristwch’
Mae John Stephenson, prif weithredwr a chyn-gapten y sir, yn dweud iddo gael “sioc” a bod yr honiadau’n destun “tristwch”.
“Does dim lle o gwbl i wahaniaethu o unrhyw fath yng Nghlwb Criced Essex ac mae gennym bolisi o beidio â goddef hiliaeth o gwbl,” meddai.
Mae’n dweud iddo “gynnig cefnogaeth lawn” i’r chwaraewr dan sylw, gan ei “annog i ddod i siarad â fi a’r clwb am ei brofiadau”.
Dywed y bydd y clwb “yn rhoi’r gofal priodol yn ei le ar ei gyfer”, a’u bod nhw’n “cymeradwyo ei ddewrder wrth godi ei lais ar fater mor sensitif ar ôl yr holl flynyddoedd hyn”.
Dywed ei fod e “wedi ymrwymo i gynnal gwerthoedd amlddiwylliannol ac amrywiol y clwb”, ac y bydd ymchwiliad trylwyr yn cael ei gynnal mewn cydweithrediad â Bwrdd Criced Cymru a Lloegr (ECB).
Cadeirydd wedi camu o’r neilltu
Camodd John Faragher o’r neilltu nos Iau (Tachwedd 11).
Fe ddaeth i’r amlwg iddo ddefnyddio iaith hiliol yn ystod cyfarfod o’r bwrdd yn 2017.
Ond mae’n gwadu’r honiadau, ac mae’r clwb yn dweud y byddan nhw’n cynnal adolygiad er mwyn ceisio darganfod pam nad oedd ymchwiliad annibynnol ar y pryd.
“Ces i wybod am yr honiad unigol hwn ddydd Iau ar ôl ymuno â’r clwb bedair wythnos yn ôl,” meddai John Stephenson.
Mae’r clwb yn dweud na fyddan nhw’n gwneud sylw pellach am y tro.