Fe fydd Gareth Baber, prif hyfforddwr tîm rygbi Ffiji, yn cyfnewid ei docyn yn eisteddle Stadiwm Principality am le ymhlith hyfforddwyr gwrthwynebwyr Cymru heddiw (dydd Sul, Tachwedd 14).
Prynodd Gareth Baber, y Cymro a chyn-fewnwr 49 oed o Gaerdydd, docynnau iddo fe a’i deulu ar gyfer y gêm ddeufis yn ôl, cyn iddo gael ei benodi’n brif hyfforddwr Ffiji.
Treuliodd e dymor yn gyd-brif hyfforddwr ar dîm y brifddinas cyn mynd yn hyfforddwr gyda thimau saith bob ochr Cymru, Hong Kong a Ffiji.
Roedd e wrth y llyw wrth i Ffiji ennill medal aur yn Tokyo eleni ac roedd disgwyl iddo fe gymryd seibiant o’r gêm cyn i Ffiji gysylltu a chynnig swydd arall iddo yn arwain y tîm 15 bob ochr.
Mae cyfyngiadau teithio Covid-19 wedi gwneud pethau’n anodd iddo wrth deithio rhwng Hemisffer y Gogledd a Hemisffer y De, gyda chyfnodau cwarantîn sylweddol yn eu lle, sy’n golygu mai chwaraewyr yn Hemisffer y Gogledd yn unig sy’n cael chwarae i Ffiji ar gyfer gemau’r hydref.
Ymhlith y rhai oedd yn methu teithio mae Vern Cotter, y prif hyfforddwr parhaol, ac mae Gareth Baber wedi camu i’r bwlch.
Yr hanes anarferol
“Fel mae’n digwydd, prynais i bum tocyn ar gyfer y gêm hon ryw ddeufis yn ôl, felly ro’n i bob amser yn mynd i fynd i’w gwylio,” meddai Gareth Baber.
“Mae gyda ni’r pum tocyn o hyd, er mai dim ond pedwar aelod o’r teulu sy’n mynd nawr!
“Byddan nhw i gyd yn y dorf.
“Yn amlwg, daeth fy nghysylltiad â’r tîm 15 bob ochr yn eithaf hwyr, felly byddan nhw yno ond bydd un sedd yn wag a bydda i yn rhywle arall yn gwylio yn y stadiwm!
“Dw i wedi hyfforddi yn erbyn Cymru yn y [gemau] saith bob ochr, ac ro’n i bob amser yn cael hynny’n arbennig o ryfedd.
“Ond mae bod yn ôl yng Nghymru a mynd i Stadiwm Principality i chwarae pymtheg bob ochr yn erbyn Cymru’n golygu bod rhaid i chi stopio a chael rhywfaint o bersbectif ar sut mae eich bywyd yn symud a pha mor lwcus ydych chi.
“Dw i’n freintiedig iawn o gael hyfforddi Ffiji.
“Mae gyda ni grŵp arbennig o chwaraewyr yma sydd, mewn amserau rhyfedd, yn gweithio’n rhyfeddol i gynrychioli eu pobol.
“Daeth ein staff hyfforddi a rheoli ynghyd lai na phythefnos yn ôl, ac maen nhw wedi dod at ei gilydd yn gyflym iawn yn grŵp eithaf cryf.
“Mae’n eithaf arbennig cael bod yn ôl yng Nghaerdydd a bod gyda thîm Ffiji mae gyda fi gysylltiad cryf gyda nhw, yn amlwg.
“Mae Ffiji fel gwlad ar y cyfan yn un mae gyda fi gysylltiad cryf â hi.
“Rydyn ni yng Nghaerdydd ac rydyn ni’n chwarae yn erbyn Cymru ond yn y pen draw, fy ngwaith yw cael perfformiad y penwythnos hwn a chreu hanes gyda’r grŵp yma o chwaraewyr.”
Ennill y Gemau Olympaidd
Wrth siarad ar raglen Jonathan ar S4C neithiwr (nos Sadwrn, Tachwedd 13), dywedodd Gareth Baber fod y profiad o ennill y fedal aur gyda Ffiji yng Ngemau Olympaidd Tokyo yn “anhygoel” – er na chafodd e fedal ei hun fel hyfforddwr.
“Ar ôl pedair blynedd a hanner yn Ffiji a phopeth a ddaeth gyda hynny, roedd hi’n braf cael gwneud hynny,” meddai.
“Roedd hi ychydig yn rhyfedd oherwydd Covid, ac nid dyna ro’n i’n ei ddisgwyl ond cael dod i ffwrdd â’r fedal aur oedd yr unig beth oedd yn bwysig yn Ffiji.
“Fyddai’r fedal arian ddim wedi bod yn ddigon da, felly roedd rhaid cael aur neu fyddwn i fyth wedi cael dychwelyd i’r wlad!”
Medal ffug a dull gwahanol o rygbi
Mae’n dweud iddo hedfan yn ôl i Gymru yn dilyn y Gemau Olympaidd gan nad oedd e wedi gweld ei deulu ers saith mis.
“Des i’n ôl i faes awyr Heathrow ac roedd fy ngwraig yn sefyll y tu allan i Costa Coffee gyda medal ffug i fi!”
Yn ôl Gareth Baber, dull gwahanol Ffiji o chwarae rygbi sy’n eu gwneud nhw’n ddeniadol i’w gwylio.
“Mae hynny’n nodweddiadol o’r wlad,” meddai.
“Mae plant yn chwarae ym mhob man ar y traethau neu ar ddarnau o dir.
“Dadlwytho’r bêl a rhedeg yw’r gêm i gyd. Dydyn nhw ddim eisiau neidio ar y llawr. O neidio ar y llawr, maen nhw’n anafu eu hunain gyda cherrig ac ati.
“Mae’n golygu cymaint iddyn nhw eu bod nhw’n cael bod yn dda yn chwarae’r gêm hon, ac maen nhw’n ystyried y gamp a’u doniau’n beth mawr i’w allforio fel bod y wlad yn cael ei harddangos.
“Os ydych chi’n ennill twrnament, rydych chi’n cael croeso sy’n gweddu i arwr, ond os ydych chi’n colli – ac o golli, dw i’n golygu cael eich curo yn y ffeinal – ac rydych chi’n cerdded yn ôl i’r maes awyr ac mae’n farw. Dydyn nhw ddim hyd yn oed yn siarad â chi!
“Mae gyda chi fois mawr ar y stryd yn dweud wrthoch chi pwy ddylech chi fod yn eu dewis a phwy ddylech chi eu gollwng, rydych chi’n mynd i’r farchnad ac mae menywod yn gwerthu blodau yn dweud yr un peth wrthoch chi, yn cael tynnu eu llun ac yn teimlo’ch pen ôl ac ati!
“Mae adloniant i’w gael bob amser, yn sicr.”
Gobeithion Ffiji yn erbyn Cymru
Wrth drafod gobeithion Ffiji yn erbyn Cymru, dywed Gareth Baber mai “un o’r pethau mawr i Ffiji yw sut maen nhw’n asio fel grŵp”.
“Pan maen nhw mewn hwyliau da i fynd allan a’i wneud e, rydych chi’n gwybod eu bod nhw’n gallu achosi sioc i dimau a’u bod nhw’n gallu chwarae’r rygbi mwyaf ffantastig weloch chi erioed.
“Dw i’n meddwl y bydd gan Gymru waith i’w wneud.”