Mae Ben Davies wedi talu teyrnged i’w gyd-chwaraewr yng nghrys Cymru, Gareth Bale, ar achlysur canfed cap y capten neithiwr (nos Sadwrn, Tachwedd 13).

Daeth y garreg filltir yn y fuddugoliaeth o 5-1 yn erbyn Belarws yng ngemau rhagbrofol Cwpan y Byd yng Nghaerdydd.

Bale yw’r ail ddyn ar ôl Chris Gunter i gyrraedd y garreg filltir i’r tîm cenedlaethol, ac fe ddaeth yr eiliad fawr ar ôl i ymosodwr Real Madrid fod allan am ddeufis ag anaf i linyn y gâr.

Un hanner o’r gêm chwaraeodd e, ond mae’n disgwyl bod yn holliach i herio Gwlad Belg nos Fawrth (Tachwedd 16).

“Mae’n anhygoel,” meddai Ben Davies am garreg filltir Bale.

“Oherwydd yr ymrwymiad mae e wedi dangos i Gymru dros y blynyddoedd, y dyfalbarhad i gyrraedd y garreg filltir hon, dydy e’n ddim byd llai na mae e’n ei haeddu.

“Mae’r hyn mae e wedi’i wneud dros Gymru wedi bod yn anhygoel.

“I gyrraedd y cant, a dw i’n gwybod ei fod e wedi bod yn gwthio ers sbel, mae’n anhygoel.

“I ni fel carfan, am arwr sydd gyda ni gyda fe.”

Gôl i Gymru

Wrth drafod ei gyfraniad ei hun, gan gynnwys ei gôl ryngwladol gyntaf yng ngêm rhif 68, dywedodd ei bod “yn rhywbeth wnes i freuddwydio amdani yn blentyn”.

Aeth y bêl i mewn i’r rhwyd oddi ar ysgwydd Davies wrth iddo geisio penio’r bêl oddi ar gic gornel Harry Wilson.

Y fuddugoliaeth o 5-1 yw’r fwyaf ers iddyn nhw guro Tsieina o 6-0 fis Mawrth 2018.

Maen nhw bellach yn ail yn eu grŵp ar ôl codi uwchlaw’r Weriniaeth Tsiec, ac mae Gwlad Belg eisoes wedi ennill y grŵp ar ôl curo Estonia o 3-1.

Wrth guro Gwlad Belg nos Fawrth, gallai Cymru sicrhau gêm ail gyfle gartref yng Nghaerdydd, ac roedden nhw eisoes wedi ennill eu lle yn y gemau ail gyfle yn sgil eu perfformiadau yng Ngynghrair y Cenhedloedd.

“Allwn ni ddim aros am Wlad Belg nawr,” meddai Ben Davies. “Mae hi’n dal yn ein dwylo ni.

“Mae gyda ni gyfle i selio’r ail safle hwnnw ac rydyn ni’n benderfynol o wneud hynny.”

Gorfoledd i Gymru

Buddugoliaeth o 5-1 yn erbyn Belarws yng Nghaerdydd yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd