Mae Joe Ledley wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol o’r byd pêl-droed.

Mewn neges ar ei dudalen Instagram, mae’n dweud bod y cyfan wedi dechrau pan oedd e’n naw mlwydd oed, pan ymunodd e â Chaerdydd.

Dywed fod cael chwarae i’r Adar Gleision yn 17 oed am y tro cyntaf “yn gwireddu breuddwyd”, ac na fydd e fydd yn anghofio cael chwarae yn Wembley.

Dywed ymhellach fod ymuno â Celtic “yn uchafbwynt” ac nad oes “teimlad gwell nag ennill tlysau i’r cefnogwyr mwyaf angerddol yn y byd”.

Gyrfa

Daeth ei gêm gyntaf i Gaerdydd yn 2004-05 pan oedd e’n 17 oed, a hynny fel eilydd yng Nghwpan y Gynghrair yn erbyn MK Dons.

Sgoriodd ei gôl gyntaf rai misoedd yn ddiweddarach mewn buddugoliaeth o 4-1 dros West Ham, ac fe gafodd ei ganmol yn helaeth.

Ar ôl llofnodi cytundeb tymor hir yn 2005, cafodd ei alw i garfan dan 21 Cymru, ond fe ddaeth ei dymor i ben yn gynnar pan wnaeth e dorri asgwrn yn ei droed.

Roedd e eisoes wedi chwarae 32 o weithiau i’w glwb ac wedi ennill tri chap dan 21.

Ar ddiwedd tymor 2006-07, enillodd e wobr Gôl Orau’r Tymor am ergyd yn erbyn Barnsley, ac fe wnaeth e wrthod symud i Wolves ar ddechrau tymor 2007-08 gyda nifer o glybiau eraill, gan gynnwys Everton, yn dechrau dangos diddordeb ynddo fe.

Sgoriodd e’r gôl fuddugol yn erbyn Barnsley wrth i’r Adar Gleision gyrraedd rownd derfynol Cwpan FA Lloegr am y tro cyntaf ers 1927, ond fe gollon nhw yn erbyn Portsmouth.

Daeth cynnig gan Stoke i’w brynu ar ddechrau tymor 2008-09, ond unwaith eto, penderfynodd e aros yng Nghaerdydd ac fe sgoriodd e gôl orau’r tymor unwaith eto am ergyd yn erbyn Abertawe.

Daeth cynigion eto gan West Ham a Wigan, ond fe benderfynodd e aros yng Nghaerdydd am weddill y tymor, ac yntau erbyn hynny’n gapten ar y tîm, ac fe aeth yn ei flaen i gael ei enwi yn Nhîm y Flwyddyn y Bencampwriaeth.

Ond gyda’r holl sylw ynghylch ei ddyfodol, fe gollodd e’r gapteniaeth gan adael am Celtic ar ddiwedd tymor 2009-10.

Dechreuodd ei yrfa yn yr Alban yn safle’r cefnwr chwith, er ei fod e wedi bod yn chwarae yng nghanol cae cyn hynny, ac fe ddychwelodd i’w safle arferol yng nghanol y tymor.

Sgoriodd e i Celtic wrth iddyn nhw golli o 2-1 yn erbyn Rangers yn rownd derfynol Cwpan yr Alban ar ddiwedd y tymor cyntaf hwnnw.

Chwaraeodd e yn y rownd derfynol unwaith eto y tymor canlynol, wrth i Celtic golli o 1-0 yn erbyn Kilmarnock.

Enillodd e’r Gynghrair gyda Celtic yn 2013, gan arwain y tîm sawl gwaith yn ystod y tymor, ac fe enillodd e’r gwpan hefyd wrth guro Hibs o 3-0.

Daeth ei gêm olaf i’r clwb yn Ionawr 2014, cyn iddo ymuno â Crystal Palace ar gytundeb tair blynedd a hanner.

Sgoriodd yn ei gêm gyntaf yn erbyn West Brom, ac fe gafodd ei ganmol unwaith eto gan y Cymro o reolwr, Tony Pulis, ac fe sgoriodd e’n ddiweddarach yn y tymor yn erbyn Caerdydd.

Ar ddiwedd tymor 2016-17, cafodd ei ryddhau ar ddiwedd ei gytundeb, gan ymuno â Derby ym mis Medi 2017 ar gytundeb byr tan Ionawr 2018.

Sgoriodd ei gôl gyntaf yn erbyn Brentford, ac fe lofnododd e gytundeb newydd tan ddiwedd tymor 2018-19, ond cafodd ei gytundeb ei derfynu yn Ionawr 2019.

Fis Rhagfyr 2019, ymunodd e â Charlton ar gytundeb byr, gyda’i unig gêm fel eilydd yn erbyn Middlesbrough.

Ar ôl gadael, fe fu’n ymarfer gyda Chasnewydd, ond fe ymunodd â Newcastle Jets yn Awstralia tan ddiwedd y tymor, gan ymuno â Carl Robinson, y rheolwr o Gymru.

Bu’n ymarfer gyda Bristol Rovers fis Chwefror eleni, ond fe ymunodd e â Chasnewydd fis yn ddiweddarach, a hynny tan ddiwedd y tymor, gan eistedd ar y fainc ar gyfer rownd derfynol y gemau ail gyfle yn Wembley.

Ond fe adawodd ar ddiwedd ei gytundeb.

Roedd e’n aelod gwerthfawr o garfan Cymru yn Ewro 2016, gan chwarae ym mhob gêm ond un wrth i Gymru gyrraedd y rownd gyn-derfynol.

Enillodd e 77 o gapiau dros ei wlad, gan sgorio pedair gôl.