Mae Cymru wedi cael eu buddugoliaeth gyntaf yng Nghyfres yr Hydref eleni yn erbyn Ffiji.
Doedd y sgôr ddim yn adlewyrchu’r perfformiad am y rhan fwyaf o’r gêm mewn gwirionedd, ond daeth ceisiau hwyr gan Louis Rees-Zammit a Liam Williams i loywi’r canlyniad.
Fe gafodd Ellis Jenkins ei enwi’n gapten ar ôl dychwelyd i’r garfan y penwythnos diwethaf yn dilyn tair blynedd yn alltud o’r garfan.
Roedd yr asgellwr Alex Cuthbert hefyd yn dechrau am y tro cyntaf ers 2017 i ennill cap rhif 49.
Daeth cwpl o newidiadau munud olaf wrth i WillGriff John ddod i mewn i’r garfan yn lle Tomas Francis, a oedd yn dioddef o effeithiau cyfergyd yn yr ymarfer ddydd Gwener.
Yn ogystal, roedd rhaid i Josh Adams ildio ei le yn safle’r canolwr, gyda Nick Tompkins yn cymryd ei le.
Hanner cyntaf
Daeth y pwysau ar Gymru yn syth, gyda chais i’r Ffijiaid o fewn y tri munud cyntaf.
Torrodd yr wythwr, Viliame Mata, yn rhydd drwy’r llinell amddiffynnol, cyn dadlwytho i Waisea Nayacalevu a orffennodd yn y gornel.
Ychwanegodd y maswr Ben Volavola ddau bwynt, a thri phwynt o gic gosb ddilynol.
Fe wnaeth Cymru ymateb yn gryf gan sgorio eu cais cyntaf wedi deng munud, gyda’r bachwr, Ryan Elias, yn hyrddio o gefn y sgarmes i sgorio ei ail gais rhyngwladol.
Ymestynnodd Ffiji eu mantais, gan ychwanegu tri phwynt o gic gosb, ond daeth eu hwyliau i lawr yn sydyn wedi hynny.
Cafodd yr asgellwr Eroni Sau ei hel oddi ar y cae, wedi i’r dyfarnwyr benderfynu ei fod wedi cysylltu’n anghyfreithlon â’r canolwr Jonny Williams.
Yn dilyn hynny, roedd Cymru yn dominyddu’r chwarae, gyda’r Ffijiaid yn colli’r blaenasgellwr Albert Tuisue cyn yr hanner oherwydd cerdyn melyn.
Llwyddodd Cymru i fynd ar y blaen am y tro cyntaf ar ôl 38 munud, gyda chais siarp gan y mewnwr Kieran Hardy a Dan Biggar yn llwyddo i drosi.
Roedd amddiffyn Ffiji yn deilchion erbyn diwedd yr hanner wrth i Gymru feddwl eu bod nhw wedi sgorio cais arall.
Ciciodd Dan Biggar y bêl ar draws y cae i ddwylo Louis Rees-Zammit a groesodd y llinell, ond roedd y bêl wedi croesi’r ystlys yn gynt yn y chwarae.
Y sgôr ar yr hanner oedd 14-13.
Ail hanner
Er gwaetha’r anfantais mewn niferoedd, daeth Ffiji yn ôl ar y blaen gyda chic lwyddiannus gan Ben Volavola.
Roedd Cymru’n ei chael hi’n anodd dod yn ôl i mewn i’r gêm gyda diffyg disgyblaeth a blerwch yn profi’n gostus.
Cawson nhw siom pellach wrth i Ffiji wrthymosod gan arwain at ail gais y canolwr cyflym Nayacalevu yn y gornel.
Cododd Cymru’r tempo yn dilyn y cais hwnnw, ac fe gafodd y prop o’r fainc, Eroni Mawi, gerdyn melyn yn ystod ymosodiad.
Doedd Ffiji yn methu â gwrthsefyll y grym hwnnw, a sgoriodd Ryan Elias ei ail gais yn debyg i’r cyntaf yn dilyn sgarmes symudol.
Rhoddodd Alex Cuthbert y tîm cartref yn ôl ar y blaen gan sgorio ei gais rhyngwladol cyntaf ers pedair blynedd.
Cafodd y bêl ei chwarae allan yn llydan ac fe orffennodd yr asgellwr yn ddawnus yn y gornel wrth i Ffiji redeg allan o ddynion yn yr amddiffyn.
Adeiladodd Cymru eu mantais gyda Louis Rees-Zammit yn cwrso’r bêl a’i chyffwrdd hi lawr yn y parth sgorio.
Gyda symudiad olaf yr wythdeg munud, fe lwyddodd seren y gêm Liam Williams i dorri’n rhydd i sgorio cais olaf dynion Wayne Pivac
Y sgôr terfynol felly oedd 38-23.