Fe fydd Danny Ward, golwr tîm pêl-droed Cymru, yn mynd ati i geisio arbed ergydion Gwlad Belg fel pe bai’n chwarae yn erbyn ei gymydog, meddai.
Mae Gwlad Belg wedi sgorio 24 o goliau mewn saith gêm wrth ennill eu grŵp rhagbrofol wrth geisio cyrraedd Cwpan y Byd 2022 yn Qatar.
Mae angen pwynt ar Gymru i sicrhau’r ail safle a gêm gartref yn rownd gyn-derfynol y gemau ail gyfle, ond bydd angen iddyn nhw atal Eden Hazard, Kevin De Bruyne a sawl un arall rhag sgorio’n drwm.
“Dw i’n chwarae i glwb yn yr Uwch Gynghrair sydd â chwaraewyr rhyngwladol o’r radd flaenaf,” meddai Danny Ward.
“Rydych chi o gwmpas y bobol hyn bob dydd.
“Os ydych chi yn y gôl ac yn ceisio atal ergyd, does dim ots os mai Kevin De Bruyne, Gareth Bale, Youri Tielemans, Aaron Ramsey neu eich cymydog yw e.
“Does dim ots pwy yw e, eich gwaith yw ceisio cadw’r bêl allan o’r rhwyd.
“Allwch chi ddim cael eich dal yn meddwl yn ormodol ynghylch pwy yw eich gwrthwynebydd.
“Rhaid i chi ganolbwyntio arnoch chi eich hun a sicrhau bod eich perfformiad ar lefel mor uchel ag y gall fod.”
Dim Lukaku
Un chwaraewr a sgoriwr goliau fydd ddim yn chwarae yw Romelu Lukaku, sydd wedi anafu ei ffêr.
Fe yw prif sgoriwr Gwlad Belg, gyda 68 o goliau mewn 101 o gemau.
Yn ôl Danny Ward, mae ei absenoldeb yn hwb i Gymru.
“Yn amlwg, mae hynny’n ein helpu ni,” meddai.
“Mae e’n ymosodwr anhygoel.
“Mae e wedi dychwelyd i’r Uwch Gynghrair efo Chelsea, ac wedi profi lle bynnag y bu ei fod e bob amser yn sgorio goliau.
“Ond Gwlad Belg yw tîm rhif un y byd, felly dw i’n siŵr fod gynnon nhw chwaraewyr o safon ym mlaen y cae.
“Tynnwch ambell chwaraewr allan ac mi fedran nhw eu disodli nhw efo rhywun cystal.”