Mae Adil Rashid, troellwr coes Swydd Efrog a Lloegr, wedi ategu honiadau Azeem Rafiq am gyn-gapten Lloegr Michael Vaughan.

Dywedodd Rafiq fod Vaughan wedi dweud bod “gormod o’ch math chi, mae’n rhaid i ni wneud rhywbeth amdano fe”, wrth gyfeirio at nifer y chwaraewyr o dras Asiaidd oedd yn chwarae i dîm criced Swydd Efrog ar y pryd.

Mae Rashid, sydd wedi chwarae 199 o weithiau dros ei wlad ac a oedd yn aelod o dîm Lloegr enillodd Gwpan y Byd yn 2019, wedi treulio’i yrfa gyfan gyda’r sir.

Mewn datganiad i’r cylchgrawn The Cricketer, dywed Rashid ei fod yntau hefyd yn cofio’r sylwadau wnaeth Vaughan, a gafodd ei enwi yn dilyn ymchwiliad annibynnol i honiadau Azeem Rafiq ddechrau’r mis hwn.

“Roeddwn i eisiau canolbwyntio gymaint â phosib ar fy nghriced ac osgoi tynnu fy sylw ar draul y tîm, ond gallaf gadarnhau atgof Azeem Rafiq o sylwadau Michael Vaughan i ni fel criw o chwaraewyr Asiaidd,” meddai.

Mae Michael Vaughan wedi gwadu’r honiadau.

Croesawu ymchwiliad

Mae Adil Rashid yn croesawu’r ymchwiliad annibynnol gan Bwyllgor Digidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon San Steffan.

Ond dydy e ddim wedi gwneud unrhyw honiadau newydd, er ei fod yn dweud ei fod yn barod i gefnogi gwaith y pwyllgor.

Mae’n dweud bod “rhaid dileu hiliaeth”.

“Dw i wedi fy nghalonogi gan y ffaith fod pwyllgor seneddol fel pe bai’n ceisio gwella’r sefyllfa, boed wrth ddwyn pobol i gyfrif neu’n sicrhau bod newidiadau ar lefel sefydliadol,” meddai.

“All y rhain ddim ond bod yn ddatblygiadau positif.”

Azeem Rafiq

Azeem Rafiq a hiliaeth Swydd Efrog: Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn barod i weithredu

Chris Philp, un o weinidogion y Llywodraeth, yn galw am ymchwiliad “trylwyr a thryloyw”
Azeem Rafiq

Cadeirydd newydd Clwb Criced Swydd Efrog yn ymddiheuro wrth Azeem Rafiq

Mae’r Arglwydd Patel yn olynu Roger Hutton, oedd wedi camu o’r neilltu yn sgil ffrae hiliaeth o fewn y clwb