Mae Louis Rees-Zammit wedi cael ei enwebu am un o wobrau mwya’r byd rygbi eleni.
Bydd yr asgellwr 20 oed yn y ras am y wobr Torri Trwodd, sy’n cael ei roi gan gorff World Rugby i chwaraewr sydd wedi dod i’r amlwg yn ystod y flwyddyn.
Hefyd yn y ras am y wobr mae maswr Harlequins a Lloegr Marcus Smith, olwr Rebels ac Awstralia Andrew Kellaway, a’r ffefryn o bosib, Will Jordan, sy’n chwarae i’r Crusaders a Seland Newydd.
Bydd enillwyr yr holl wobrau’n cael eu cyhoeddi yn ddigidol rhwng Rhagfyr 6 a 10.
Bollt o Benarth
Ar ôl ennill ei gap cyntaf i Gymru y llynedd, fe sgoriodd ei gais cyntaf dros Gymru yn erbyn Georgia fis Tachwedd diwethaf.
Fe ddechreuodd eleni gyda pherfformiadau disglair ar yr asgell, gan sgorio ei gais cyntaf yng nghystadleuaeth y Chwe Gwlad yn y gêm gyntaf yn erbyn Iwerddon.
Fe orffennodd y gystadleuaeth honno gyda phedwar cais, gyda’i gyflymder aruthrol yn helpu Cymru wrth ennill y bencampwriaeth.
Roedd ei berfformiadau i’w wlad a’i glwb Caerloyw yn ddigon da iddo gael ei enwi yng ngharfan y Llewod ar gyfer y daith i Dde Affrica, ac yntau ond yn 20 oed.
Er iddo gael tri chais yn y gemau agoriadol, wnaeth o ddim cael ei enwi ar gyfer yr un o’r gemau prawf aflwyddiannus yn erbyn y Springboks.
Fe orffennodd y flwyddyn gyda chais cofiadwy yn erbyn Ffiji yng Nghyfres yr Hydref, gan gwrso ei gic ei hun o hanner ffordd.
Yn dilyn y gêm honno, dywedodd ei hyfforddwr, Wayne Pivac mai “dyna beth mae’n gallu ei wneud a does dim modd hyfforddi hynny”.
“Roeddwn i’n hynod o falch ei fod wedi dangos ei ddisgleirdeb unigol a’r cyflymder amrwd yna sydd ganddo,” meddai.
“Mae’n wych ei gael yn eich tîm pan mae’n gallu gwneud y math yna o beth.”
Y brif wobr
Does dim un chwaraewr Seland Newydd na De Affrica wedi eu henwebu am brif wobr y dynion eleni, er gwaethaf perfformiadau disglair gan y ddwy wlad.
Yn mynd am y wobr honno fydd Michael Hooper (Awstralia a Waratahs), Samu Kerevi (Awstralia a Suntory Sungoliath), Maro Itoje (Lloegr a Saracens), ac Antoine Dupont (Ffrainc a Toulouse).
Wedi eu henwebu am brif wobr y merched mae Zoe Aldcroft (Lloegr a Gloucester-Hartpury), Poppy Cleall (Lloegr a Saracens), Caroline Boujard (Ffrainc a Montpellier), a Laure Sansus (Ffrainc a Toulouse).