Fydd capten Cymru Gareth Bale ddim yn dechrau yn erbyn Gwlad Belg nos fory (nos Fawrth, Tachwedd 16) wrth iddo barhau â’i adferiad o anaf.

Bydd cic gyntaf y gêm ragbrofol dyngedfennol ar gyfer Cwpan y Byd 2022 am 7:45 yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Cafodd Bale, 32, ei dynnu oddi ar y cae ar hanner amser yn y fuddugoliaeth 5-1 yn erbyn Belarws ddydd Sadwrn (Tachwedd 13).

Dywed y rheolwr Robert Page mai unig obaith Bale o chwarae yn erbyn Gwlad Belg ydi iddo ddod oddi ar y fainc.

“Doedd e byth yn mynd i ddechrau. Roedden ni’n gwybod hynny yn dod i’r gwersyll,” meddai Page.

“Y cynllun oedd iddo gael hanner yn y gêm gyntaf ac yna dod ymlaen ac efallai cael effaith yn yr ail gêm.

“Nid yw wedi chwarae ers cwpl o fisoedd ac roedd ei daflu i mewn ar gyfer y gêm honno yn ofyn mawr o safbwynt corfforol.

“Mae wedi gwneud ei adferiad ei hun heddiw a byddwn yn ei adael i’r funud olaf i weld a all chwarae unrhyw funudau.”

Mae Cymru yn ail yng Ngrŵp E, tri phwynt ar y blaen i’r Weriniaeth Tsiec yn y trydydd safle, sy’n herio Estonia nos Fawrth.

Y sefyllfa

Gall dynion Robert Page sicrhau’r ail safle gyda gêm gartref i Wlad Belg.

Pe bai Cymru a’r Weriniaeth Tsiec yn gyfartal ar bwyntiau, bydd yr ail safle yn mynd i’r tîm gyda’r gwahaniaeth goliau gorau, neu’r tîm sydd wedi sgorio mwyaf.

Ar hyn o bryd mae gan Gymru wahaniaeth goliau ddwy yn well na’r Tsieciaid, ac wedi sgorio un gôl yn fwy.

Dim Eden Hazard na Thibaut Courtois i Wlad Belg

Fydd cyd-chwaraewyr Gareth Bale yn Real Madrid – Eden Hazard a Thibaut Coutois – ddim yn teithio i Gaerdydd.

Fodd bynnag, mae tîm Rob Page yn dal i fod yn debygol o wynebu tîm cryf, gyda chwaraewyr megis Kevin De Bruyne, Dries Mertens a Yannick Carrasco yn y garfan.

Y fantais o fod gartref

Yn y cyfamser, mae Aaron Ramsey yn dweud y byddai’n fantais “enfawr” i Gymru pe baen nhw’n cael chwarae gartref yn eu gêm ail gyfle.

Maen nhw eisoes wedi sicrhau eu lle yn y gemau ail gyfle, ac mae angen o leiaf un pwynt arall i orffen uwchlaw’r Weriniaeth Tsiec yn yr ail safle hollbwysig.

“Dyna oedd ein nod, i orffen yn ail yn ein grŵp, dydy hynny ddim wedi newid,” meddai Ramsey, oedd wedi sgorio dwy gôl yn y fuddugoliaeth o 5-1 yn erbyn Belarws.

“Os ydyn ni’n llwyddo i gael canlyniad nos Fawrth, byddwn ni wedi cyflawni hynny.

“Mae’r gêm gartref honno’n mynd i fod yn enfawr, ond mae timau gwych yn y pot y gallen ni eu tynnu allan o’r het.

“Mae’n rhaid i ni ganolbwyntio ar y gêm hon yn unig a cheisio gorffen y dasg yn gywir, ac wedyn poeni am beth bynnag sydd i ddod yn y dyfodol.

“Rydyn ni eisiau gorffen yn ail yn y grŵp, felly gobeithio y gallwn ni wneud hynny.”