Mae Clwb Criced Essex yn ymdrin â honiadau newydd o hiliaeth.

Ddyddiau’n unig ar ôl i Zoheb Sharif, un o gyn-chwaraewyr y sir, ddweud iddo gael ei sarhau’n hiliol ar droad y ganrif, mae Maurice Chambers, cyn-chwaraewr arall wedi gwneud rhagor o honiadau.

Wrth siarad â’r cylchgrawn The Cricketer, dywedodd Chambers iddo gael ei fwlio mewn modd hiliol am ddegawd, gan gynnwys taflu bananas ato a bod yn destun jôcs hiliol yn gyson.

Mae Bwrdd Criced Cymru a Lloegr (ECB) yn dweud eu bod nhw “wedi ffieiddio”, gan ategu’r neges nad oes lle i hiliaeth yn y byd criced.

Yr wythnos hon, dywedodd Zoheb Sharif iddo gael ei alw’n “fomiwr” yn dilyn ymosodiadau 9/11 yn 2001.

Mae Chambers yn dweud bod cyd-chwaraewr yn Essex wedi taflu banana i lawr grisiau eu cartref ar ddiwedd noson feddwol, gan ddweud “Dringa amdano fe, y ff**** mwnci”.

Mae e hefyd wedi gwneud honiadau ynghylch ei gyfnod yn chwarae i Swydd Northampton.

Ymateb

Wrth ymateb, mae John Stephenson, prif weithredwr newydd Clwb Criced Essex, yn dweud ei fod yn “hynod siomedig o glywed am ragor o honiadau hanesyddol o hiliaeth”.

Dywed fod Chambers wedi gwneud honiadau am ddau o’i hen gyd-chwaraewyr ac aelod o staff y clwb, ond mae’n pwysleisio nad yw’r un ohonyn nhw’n dal i weithio i’r clwb erbyn hyn.

Mae’n addo ymchwiliad “trylwyr” gan ddweud y bydd yr honiadau’n cael eu trin “o ddifri” a bod y clwb yn cefnogi’r chwaraewyr dan sylw.

Maen nhw hefyd wedi trosglwyddo’r mater i Fwrdd Criced Cymru a Lloegr.

Clwb Criced Essex

Clwb Criced Essex yn ymateb i honiadau o hiliaeth

Daw sylwadau’r prif weithredwr John Stephenson yn dilyn ymddiswyddiad y cadeirydd John Faragher a honiadau gan gyn-chwaraewr