Bydd Joe Ledley yn cael ei gofio fel “ffefryn” ymhlith cefnogwyr Cymru, yn ôl y cyflwynydd Dylan Ebenezer.
Daw hyn ar ôl i’r chwaraewr canol cae gyhoeddi ddoe (dydd Sul, 14 Tachwedd) ei fod e’n ymddeol.
Dechreuodd ei yrfa gyda Chaerdydd yn 2004-05 pan oedd e’n 17 oed, a hynny fel eilydd yng Nghwpan y Gynghrair yn erbyn MK Dons.
Sgoriodd ei gôl gyntaf rai misoedd yn ddiweddarach mewn buddugoliaeth o 4-1 dros West Ham, ac fe gafodd ei ganmol yn helaeth.
Ar ôl llofnodi cytundeb tymor hir yn 2005, cafodd ei alw i garfan dan 21 Cymru, ond fe ddaeth ei dymor i ben yn gynnar pan wnaeth e dorri asgwrn yn ei droed.
Roedd e eisoes wedi chwarae 32 o weithiau i’w glwb ac wedi ennill tri chap dan 21.
Ar ddiwedd tymor 2006-07, enillodd e wobr Gôl Orau’r Tymor am ergyd yn erbyn Barnsley, ac fe wnaeth e wrthod symud i Wolves ar ddechrau tymor 2007-08 gyda nifer o glybiau eraill, gan gynnwys Everton, yn dechrau dangos diddordeb ynddo fe.
Sgoriodd e’r gôl fuddugol yn erbyn Barnsley wrth i’r Adar Gleision gyrraedd rownd derfynol Cwpan FA Lloegr am y tro cyntaf ers 1927, ond fe gollon nhw yn erbyn Portsmouth.
Daeth cynnig gan Stoke i’w brynu ar ddechrau tymor 2008-09, ond unwaith eto, penderfynodd e aros yng Nghaerdydd ac fe sgoriodd e gôl orau’r tymor unwaith eto am ergyd yn erbyn Abertawe.
Gadawodd am Celtic ar ddiwedd tymor 2009-10.
Enillodd e’r Gynghrair gyda Celtic yn 2013, gan arwain y tîm sawl gwaith yn ystod y tymor, ac fe enillodd e’r gwpan hefyd wrth guro Hibs o 3-0.
Daeth ei gêm olaf i’r clwb yn Ionawr 2014, cyn iddo ymuno â Crystal Palace ar gytundeb tair blynedd a hanner.
Sgoriodd yn ei gêm gyntaf yn erbyn West Brom, ac fe gafodd ei ganmol unwaith eto gan y Cymro o reolwr, Tony Pulis, ac fe sgoriodd e’n ddiweddarach yn y tymor yn erbyn Caerdydd.
Ar ddiwedd tymor 2016-17, cafodd ei ryddhau ar ddiwedd ei gytundeb, gan ymuno â Derby ym mis Medi 2017 ar gytundeb byr tan Ionawr 2018.
Sgoriodd ei gôl gyntaf yn erbyn Brentford, ac fe lofnododd e gytundeb newydd tan ddiwedd tymor 2018-19, ond cafodd ei gytundeb ei derfynu yn Ionawr 2019.
Fis Rhagfyr 2019, ymunodd e â Charlton ar gytundeb byr, gyda’i unig gêm fel eilydd yn erbyn Middlesbrough.
Ar ôl gadael, fe fu’n ymarfer gyda Chasnewydd, ond fe ymunodd â Newcastle Jets yn Awstralia tan ddiwedd y tymor, gan ymuno â Carl Robinson, y rheolwr o Gymru.
Bu’n ymarfer gyda Bristol Rovers fis Chwefror eleni, ond fe ymunodd e â Chasnewydd fis yn ddiweddarach, a hynny tan ddiwedd y tymor, gan eistedd ar y fainc ar gyfer rownd derfynol y gemau ail gyfle yn Wembley.
Ond fe adawodd ar ddiwedd ei gytundeb.
Roedd e’n aelod gwerthfawr o garfan Cymru yn Ewro 2016, gan chwarae ym mhob gêm ond un wrth i Gymru gyrraedd y rownd gyn-derfynol.
Enillodd e 77 o gapiau dros ei wlad, gan sgorio pedair gôl.
‘Ffefryn’ a ‘cult hero’
“Mae e’n ffefryn mawr ymhlith cefnogwyr Cymru dw i’n credu,” meddai Dylan Ebenezer wrth golwg360.
“Bron ei fod e wedi troi mewn i ychydig i cult hero gyda’r cefnogwyr, mae gen ti ‘Joe Ledley’s Beard’ sy’n gyfrif Twitter ei hunan.
“Roedd e’n un o’r chwaraewyr solet yna oedd yn hollol gyson, ac wedyn aeth e allan o’i hunan yn yr Ewros, ddaru ni weld rhyw ochr arall ohono fe oddi ar y cae.
“Dipyn o gymeriad a dw i’n siŵr y bydd e’n cael ei gofio fel ffefryn, roedd e’n chwaraewr poblogaidd iawn.”
‘Emosiynol’
Wrth gyhoeddi ei ymddeoliad ar Instagram, dywedodd Joe Ledley na fyddai’n gallu ymddeol o Gymru ac felly ei fod “ar gael am byth”.
“Mae’r diwedd yna yn eithaf emosiynol, fe’n dweud nad yw’n gallu ymddeol o Gymru,” meddai Dylan Ebenezer.
“Mae e’n amlwg yn golygu llwyth iddo fe, ac mae e’n taro chi gymaint o gymeriad cryf oedd e mewn ffordd, am wn i.
“Daeth e’n ôl ar gyfer yr Ewros ar ôl torri ei goes, chwarae i Gaerdydd… Celtic, roedd e’n boblogaidd iawn lan fan yna – maen nhw’n glwb enfawr.
“Mae e wedi cael gyrfa ffantastig, chwarae teg.
“Doedd e ddim yn flash, chwaraewr taclus, ond efallai bod y rôl roedd e’n arfer ei wneud yn fwy ffasiynol nawr.
“Roedd e’n gwneud gwaith gwych yng nghanol y cae, ac erbyn hyn mae chwaraewyr fel yna yn fwy ffasiynol a phoblogaidd.
“Roedd e yna am flynyddoedd (gyda Chymru) ond efallai mai dim ond tuag at y diwedd ddaru ni ddechrau sylwi arno fe a gwerthfawrogi fe mwy.”