Mae Rabbi Matondo wedi gwrthod y cyfle i ailsefydlu’i hun yng ngharfanau Cymru drwy wrthod y cynnig i ymuno â’r garfan dan-21, yn ôl yr hyfforddwr, Paul Bodin.

Mae Matondo wedi ennill wyth cap llawn i Gymru – ond nid yw wedi bod yn y garfan ers cael ei daflu allan am dorri protocolau Covid-19 ym mis Mawrth.

Mae Matondo ar fenthyciad tymor o hyd yn Cercle Brugge o Schalke, y clwb o’r Almaen a dalodd Manchester City dros £11miliwn amdano ym mis Ionawr 2019.

“Fe wnaethon ni siarad ag e pan nad oedd yng ngharfan y tîm cyntaf ychydig wythnosau yn ôl,” meddai rheolwr Dan-21 Cymru, Bodin.

“Mae wedi bod yn rhan o nifer o gemau – ond dywedodd nad yw’n teimlo ei fod cant y cant ffit i chwarae pêl-droed rhyngwladol.

“Mae’n dal i adeiladu ei funudau mewn gemau. Wnaeth e ddim hyfforddi’n llawn cyn y tymor – cyfnod byr gafodd e cyn y tymor.

“Erbyn mis Mawrth, dw i’n siŵr y bydd wedi cael 10 i 15 gêm o dan ei wregys a bydd ar gael i’r tîm cyntaf neu i ni.”

“Talentog”

Mae Matondo wedi gwneud wyth ymddangosiad i Cercle y tymor hwn ac wedi dechrau eu tair gêm gynghrair ddiwethaf.

Daeth ei fenthyciad i Wlad Belg ar ôl cyfnod llwm ar fenthyg yn Stoke yn ail hanner y tymor diwethaf – lle gwnaeth 11 ymddangosiad gan sgorio un gôl.

Dywedodd Bodin: “Mae Rabbi yn fachgen talentog ac mae’n fachgen ifanc.

“Mae chwaraewyr cyflym, yn y gêm fodern, yn cael cryn sylw – ac mae’n anodd amddiffyn yn eu herbyn. Mae Rabbi yn y categori hwnnw.

“Oedd hi’n gam rhy gynnar iddo fe, mynd i’r Almaen yn 18 oed? Mynd i amgylchedd newydd, byw ar ei ben ei hun?

“Gobeithio y gall gael ei yrfa glwb yn ôl ar y trywydd iawn ac os yw’n chwarae’n rheolaidd ac yn cynhyrchu, rwy’n siŵr y bydd Rob yn edrych arno ar gyfer yr ymgyrch nesaf.”

Mae tîm dan-21 Cymru yn chwarae yn erbyn y Swistir yn gemau rhagbrofol Euro 2023 yng Nghasnewydd ddydd Mawrth.

Hawliodd Cymru ei buddugoliaeth fwyaf erioed yn y grŵp oedran hwn drwy chwalu Gibraltar 7-0 ddydd Gwener.

“Roeddem yn broffesiynol iawn ac mae sgorio saith ar unrhyw lefel yn wych,” meddai Bodin.

“Gobeithio nad ydyn ni wedi defnyddio ein cwota llawn – a bod gennym ni ychydig mwy ar ôl ynom ni!”