Mae Cymru’n wynebu gorffen Cyfres yr Hydref gyda hyd yn oed yn fwy o anafiadau.
Bydd angen asesiadau ar bedwar chwaraewr cyn gêm olaf yr hydref yn erbyn Awstralia ddydd Sadwrn nesaf (20 Tachwedd).
Bu’n rhaid i’r asgellwr Josh Adams, oedd i fod i chwarae fel canolwr yn erbyn Ffiji, dynnu allan oriau yn unig cyn y gêm ddydd Sul (14 Tachwedd).
Roedd y prop Tomas Francis eisoes wedi tynnu allan ar ôl dioddef anaf yn ystod hyfforddiant, tra bod WillGriff John a’r clo Will Rowlands wedi dioddef ergydion i’r pen ym muddugoliaeth Cymru o 38-23 dros Ffiji.
Aeth Cymru i mewn i gyfres yr hydref gyda sêr megis Leigh Halfpenny, George North, Josh Navidi a Justin Tipuric i gyd yn absennol.
Ac yna gwelodd Pivac nifer o’i garfan wreiddiol – gan gynnwys y capten Alun Wyn Jones, Ken Owens, Ross Moriarty a Taulupe Faletau – yn dioddef anafiadau.
Tair buddugoliaeth yn olynol yn erbyn Awstralia?
Bydd Cymru’n herio Awstralia nesaf, sydd wedi colli yn erbyn yr Alban a Lloegr yn ystod cyfres yr hydref.
Mae Cymru hefyd wedi curo’r Wallabies yn ei dwy gêm ddiwethaf.
Ychwanegodd Wayne Pivac: “Mae Awstralia wedi’i hyfforddi’n dda – rwy’n adnabod Dave Rennie yn dda iawn.
“Byddan nhw’n brifo ar ôl y ddwy gêm ddiwethaf.
“Rydyn ni’n disgwyl iddyn nhw ddod a bod yn gorfforol.
“Os yw’r tywydd yn dda, bydd hi’n gêm sy’n llifo, gydag unrhyw lwc.”
Elliot Dee yn dychwelyd
Yn y cyfamser, mae Pivac wedi derbyn un darn o newyddion ffitrwydd cadarnhaol, gyda bachwr y Dreigiau, Elliot Dee, yn cael ei alw’n ôl i garfan Cymru.
Cafodd Dee, sydd wedi ennill 40 o gapiau, anaf i’w wddf fis diwethaf tra’n chwarae i’r Dreigiau.