Mae rheolwr Cymru Rob Page yn dweud y bydd ei dîm yn “hollol barod” am y gêm yn erbyn Gwlad Belg heno (dydd Mawrth, 16 Tachwedd).
Dyma fydd gêm ragbrofol olaf Cymru yng ngrŵp E ar gyfer Cwpan y Byd 2022, ac maen nhw eisoes wedi sicrhau lle yn y rowndiau ail-gyfle yn dilyn eu canlyniadau yng Nghynghrair y Cenhedloedd y llynedd.
Ond byddan nhw’n llwyddo i orffen yn ail yn eu grŵp pe baen nhw’n cael o leiaf pwynt yn Stadiwm Dinas Caerdydd, neu pe bai Estonia yn llwyddo i syfrdanu’r Weriniaeth Tsiec ym Mhrâg.
Fe gododd Cymru i’r ail safle ar ôl maeddu Belarws ddydd Sadwrn (13 Tachwedd) o 5-1, sy’n golygu eu bod nhw driphwynt uwchben y Tsieciaid, ac efo mantais ar wahaniaeth goliau fel mae’n sefyll.
Pe bai cyfres o ganlyniadau yn mynd eu ffordd nhw ar draws y grwpiau, bydden nhw’n sicrhau bod eu gemau ail-gyfle fis Mawrth nesaf yn digwydd gartref.
Newyddion y timau
Mae Cymru eisoes wedi cyhoeddi na fydd Gareth Bale yn dechrau’r gêm yn erbyn y Belgiaid oherwydd ffitrwydd, a bydd Rob Page yn penderfynu funud olaf os y bydd ar y fainc.
Yr unig chwaraewr arall sydd ddim ar gael i’r tîm cartref yw Ethan Ampadu, sydd wedi cael ei wahardd ar ôl casglu dau gerdyn melyn yn ystod y gemau rhagbrofol.
Mae disgwyl y bydd Kieffer Moore yn dychwelyd i’r 11 cyntaf, ar ôl iddo yntau gael ei wahardd o’r gêm yn erbyn Belarws dros y penwythnos.
Bydd y gwrthwynebwyr yn colli nifer o’u chwaraewyr gorau, gyda Romelu Lukaku, Eden Hazard a Thibaut Courtois yn absennol iddyn nhw heno.
‘Barod amdani’
Fe edrychodd Rob Page ymlaen at y gêm mewn cynhadledd i’r wasg ddydd Llun (15 Tachwedd).
“Rydyn ni’n llawn hyder ar ôl y gêm ddydd Sadwrn,” meddai.
“Bydd gennyn ni feddylfryd ychydig bach yn wahanol, hynny yw does dim rhaid inni ennill y gêm hon o bedair neu bump gôl.
“Dyna oedd y bwriad yn y gêm honno, cael dechreuad cyflym a chael cymaint o goliau o bosib.
“Ond mae gennyn ni gynllun i’r gêm hon, a byddwn ni’n hollol barod amdani.”
Bygythiad y Belgiaid
Y gwrthwynebwyr sydd ar frig detholion y byd ar hyn o bryd, ac fe wnaethon nhw guro Cymru o 3-1 oddi cartref yn gynharach eleni.
“Gellir dadlau ein bod ni wedi sgorio ein gôl gorau erioed oddi cartref yn eu herbyn nhw,” meddai Rob Page.
“Pan rydych chi’n edrych ar y dair gôl wnaethon ni ildio, gallan ni fod wedi gwneud yn well ymhob un o’r dair.
“Rydyn ni wedi edrych yn yr ymarfer heddiw ar sut byddwn ni’n delio efo’u bygythiad ymosodol.
“Mae ganddyn nhw ddigonedd o dalent, ond rydyn ni eisoes efo’r sicrhad o le yn y gemau ail-gyfle, felly mae modd i ni chwarae’n ymosodol ein hunain.”