Mae Gareth Bale wedi ei adael allan o garfan Cymru ar gyfer y gêm dyngedfennol yng ngrŵp E yn erbyn Gwlad Belg.
Doedd yr asgellwr ddim yn rhan o’r 23 dyn sydd wedi eu dewis gan Rob Page i chwarae’r tîm sy’n rhif un y byd yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Mae ymosodwr Caerdydd, Mark Harris, hefyd wedi ei adael allan o’r 23, yn ogystal ag Ethan Ampadu, sydd wedi ei wahardd yn dilyn y fuddugoliaeth 5-1 yn erbyn Belarws nos Sadwrn (13 Tachwedd).
Bydd enwau mwyaf profiadol Cymru ar gael, gan gynnwys Aaron Ramsey, Joe Allen, a Chris Gunter – y tri chwaraewr hynny mewn perygl o golli’r gêm ail-gyfle gyntaf pe baen nhw’n cael cerdyn melyn heno.
Yn dilyn buddugoliaeth yr Alban yn erbyn Denmarc, bydd rhaid i Gymru gael o leiaf gêm gyfartal cyn gallu mwy neu lai sicrhau eu lle ymysg y detholion yn y gemau ail-gyfle.
Pe baen nhw’n gwneud hynny, byddan nhw’n cael gêm gartref i ddechrau, ac osgoi timau fel Portiwgal a’r Eidal nes rownd derfynol y gemau ail-gyfle.
Dim Bale v Belg
Fe wnaeth rheolwr Cymru gadarnhau ddoe (dydd Llun, 15 Tachwedd) na fyddai Bale yn dechrau’r gêm oherwydd pryderon i’w ffitrwydd, ond dywedodd y byddai’n benderfyniad munud olaf i’w gynnwys yn y garfan.
Fe enillodd ei ganfed cap i Gymru yn y gêm yn erbyn Belarws dros y penwythnos, ond cafodd ei eilyddio ar yr hanner.
Bydd gan gefnogwyr Cymru atgofion melys o Bale yn erbyn Gwlad Belg, ar ôl iddo sgorio’r gôl fuddugol yn eu herbyn nhw yn 2015, yn yr ymgyrch rhagbrofol Euro 2016.
Roedd hefyd yn rhan o’r 11 a gychwynnodd y gêm wyth olaf yn erbyn y Belgiaid yn y bencampwriaeth honno, gyda Chymru yn eu syfrdanu unwaith eto o dair gôl i un.
Dydy Bale, sy’n 32 oed, ond wedi chwarae tair gwaith i Real Madrid y tymor hwn, a bydd rhaid iddo ddisgwyl tan fis Mawrth nes gallu chwarae i Gymru eto.
“Mae o’n mynd i fod yn stiff,” dywedodd Page am Bale ddoe (15 Tachwedd).
“Dydy o heb chwarae ers cwpl o fisoedd a byddai ei daflu o mewn wedi bod yn ofyn mawr yn gorfforol.
“Mae’n rhwystredig iddo. Mae o wedi gwneud ymdrech aruthrol i fod yn ffit ar gyfer y gêm (yn erbyn Belarws), ac mae’n haeddu credyd am hynny.”
Fel mae’n sefyll
Pe bai popeth yn aros fel mae’n sefyll, a Chymru’n cael gêm gyfartal heno, dyma fyddai’r detholion a’r rhai fydd ddim yn ddetholion wrth i’r gemau ail-gyfle gael eu pennu ar ddydd Gwener, 26 Tachwedd.
Detholion
- Yr Alban
- Cymru
- Yr Eidal
- Portiwgal
- Rwsia
- Sweden
Heb eu dethol
- Awstria
- Ffindir
- Gogledd Macedonia
- Gweriniaeth Tsiec
- Gwlad Pwyl
- Twrci
Yr unig ganlyniad a allai fynd yn erbyn Cymru (pe baen nhw’n cael gêm gyfartal) yw’r gêm rhwng Twrci a Montenegro – pe bai Twrci’n ennill o bedair gôl, bydden nhw’n cipio lle Cymru ymysg y detholion uchod.
Bydd y gic gyntaf yn Stadiwm Dinas Caerdydd am 19:45 heno (16 Tachwedd), gyda darllediad byw o’r gêm ar S4C.