Mae Benjamin Mendy, amddiffynnwr tîm pêl-droed Manchester City, wedi cael ei gyhuddo o ddau achos arall o dreisio.
Mae’r cyhuddiadau i gyd yn ymwneud â phedwar o bobol dros 16 oed, ac mae’n debyg fod pob achos wedi digwydd yn ei gartref yn Prestbury, Sir Caer, rhwng Hydref y llynedd ac Awst eleni.
Yn dilyn y cyhuddiadau gwreiddiol, mae’n parhau i fod yn y ddalfa yn Lerpwl, ac fe wnaeth barnwyr wrthod sawl cais am fechnïaeth.
Bydd gofyn iddo nawr ymddangos yn Llys Ynadon Stockport fory (dydd Mercher, Tachwedd 17), i wynebu’r cyhuddiadau newydd.
Benjamin Mendy
Fe chwaraeodd Benjamin Mendy gêm gyntaf y tymor i Manchester City yn erbyn Tottenham Hotspur, ond fe gafodd ei wahardd gan y clwb ar Awst 26 yn dilyn y cyhuddiadau.
Ymunodd â’r clwb ym Manceinion o Monaco yn 2017, ac mae wedi ennill deg o gapiau dros ei wlad, gan ennill Cwpan y Byd yn 2018.
Mae dyn arall – Louis Saha Matturie, sy’n 40 oed o Eccles ym Manceinion – wedi ei gyhuddo o achosion cysylltiedig o dreisio rhwng Mawrth ac Awst eleni.
Bydd yn mynd gerbron llys yr un pryd â Mendy ar Ionawr 24.