Mae Azeem Rafiq, y cyn-gricedwr sydd wedi cyhuddo Clwb Criced Swydd Efrog o hiliaeth sefydliadol, wedi datgelu ei brofiadau wrth siarad gerbron pwyllgor seneddol yn San Steffan.
Aeth gerbron y Pwyllgor Digidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon heddiw (dydd Mawrth, Tachwedd 16) ar ôl cael braint seneddol i ddatgelu honiadau sydd heb gael eu clywed o’r blaen.
Yn ogystal â datgelu ei brofiadau fel aelod o dîm Swydd Efrog, mae’n dweud bod agweddau hiliol ei gyd-chwaraewr Gary Ballance yn “gyfrinach agored yn ystafell newid Lloegr”, lle’r oedd Alex Hales, un arall o chwaraewyr Lloegr, yn defnyddio’r enw ‘Kevin’ i gyfeirio at bobol o liw yn y tîm, gan roi’r enw hwnnw ar ei gi hefyd am mai ci du oedd e.
Roedd Rafiq yn ddagreuol yn ystod y gwrandawiad, ond fe fu’n siarad am bron i awr a 40 munud heblaw am seibiant am ei fod wedi mynd yn rhy emosiynol i barhau i siarad.
Dywedodd Rafiq fod hiliaeth wedi costio’n ddrud iddo, a’i fod e wedi colli ei yrfa o ganlyniad, ond fod y broblem yn mynd yn ddyfnach o lawer.
Yn 15 oed, meddai, cafodd gwin coch ei arllwys i lawr ei gorn gwddf gan gyn-chwaraewr Swydd Efrog a Swydd Hampshire.
Wrth drafod y digwyddiadau i gyd gyda’i gilydd, dywedodd fod yna bobol oedd yn hiliol a phobol oedd yn anwybyddu’r cyfan.
“Doedd neb yn teimlo ei fod yn bwysig,” meddai, gan ychwanegu ei fod yn teimlo dyletswydd i fod yn “llais y rhai sydd heb lais”.
Honiadau
Dywedodd Azeem Rafiq fod y gair ‘P***’ yn cael ei ddefnyddio’n “gyson” yn Swydd Efrog a’r gêm yn ehangach, ei fod e wedi clywed yr ymadrodd “glanhawr eliffantod” yn cael ei ddefnyddio a bod yna gyfeiriadau cyson at siop y gornel.
Dywedodd fod Gary Ballance wedi dweud wrth chwaraewr arall am beidio â siarad a fe am nad oedd e’n “Sheikh, does dim olew ganddo fe”.
Fe fu hefyd yn trafod y cyn-brif weithredwr Mark Arthur, y cyfarwyddwr criced Martyn Moxon a chyn-gapten Lloegr Michael Vaughan.
Dywedodd iddo gael cryn gerydd yn yr ystafell wisgo gan Moxon, a hynny yn fuan ar ôl iddo golli ei fab yn ystod genedigaeth, ac fe arweiniodd cwyn at Rafiq yn cael ei ryddhau o’i gytundeb gyda’r sir yn 2017.
Fe wnaeth e sawl honiad newydd yn ystod y gwrandawiad hefyd.
Dywedodd fod Matthew Hoggard, cyn-fowliwr Swydd Efrog a Lloegr, wedi ei ffonio i ymddiheuro am sylwadau oedd wedi peri loes iddo fe, ac mae e hefyd wedi cwyno am sylwadau chwaraewr rhyngwladol arall, Tim Bresnan.
Mae’n honni hefyd fod Jack Brooks, aelod o ddau dîm enillodd y Bencampwriaeth gyda’r sir, yn galw Cheteshwar Pujara o India a fu’n dramorwr gyda’r sir yn “Steve”.
Diffyg cefnogaeth
Mae e hefyd wedi lladd ar y gefnogaeth a gafodd e gan Gymdeithas y Cricedwyr Proffesiynol (PCA), yr undeb sy’n cynrychioli chwaraewyr.
Cafodd Matthew Wood, cyn-chwaraewr arall yn Swydd Efrog a chyn-fatiwr Morgannwg, ei benodi i ofalu am Rafiq, ond dywedodd ei fod e’n gweithredu “ar ran Swydd Efrog, gyda Swydd Efrog”.
Mae e hefyd wedi beirniadu Joe Root, capten Lloegr a chyd-chwaraewr yn Swydd Efrog, ar ôl iddo ddweud nad yw’n cofio enghreifftiau o hiliaeth yn y clwb, er ei fod yn dweud nad yw Root ei hun yn hiliol.
Ond fe ddatgelodd fod Root yn byw gyda Gary Ballance ar y pryd.
Mae Bwrdd Criced Cymru a Lloegr wedi penodi panel annibynnol i oruchwylio’r broses o ymchwilio i’r cwynion, ond mae Azeem Rafiq yn amheus ynghylch y broses honno.
“Mae angen gweithredu, ac mae angen gweithredu nawr,” meddai.
“A bod yn onest, rydyn ni wedi diflasu ynghylch y comisiynau ac ymchwiliadau ecwiti hyn. Wedi diflasu’n llwyr.
“Y cyfan rydyn ni’n gofyn amdano yw cydraddoldeb, i gael ein trin yn deg waeth bynnag am liw ein croen neu’r crefydd rydyn ni’n ei ddilyn.
“Dim ond parch fel hil ddynol. Mae’n 2021, ddylen ni ddim hyd yn oed fod yn cael y sgwrs yma.
“Does neb wedi chwythu’r chwiban o’r blaen, does neb wedi bod â’r dewrder i gamu ymlaen oherwydd yr ofn o beidio â chael eu credu.
“Ydw i’n credu fy mod i wedi colli fy ngyrfa i hiliaeth? Ydw.”
Dywedodd ei fod yn “gredwr fod popeth yn digwydd am reswm”, a’i fod yn disgwyl “newid mawr ymhen pum mlynedd” ac y bydd “wedi gwneud rhywbeth llawer iawn mwy nag unrhyw rediadau neu wicedi ges i”.
David ‘Bumble’ Lloyd
Yn y cyfamser, mae David Lloyd, y sylwebydd a chyn-brif hyfforddwr Lloegr, wedi ymddiheuro am sylwadau a wnaeth y llynedd am y gymuned Asiaidd.
Mae’n dweud iddo wneud sylwadau fis Hydref y llynedd “gyda thrydydd parti” – ac mae’r trydydd parti hwnnw, y newyddiadurwr a chyflwynydd podlediad James Buttler wedi enwi ei hun ar Twitter.
Dywedodd Lloyd mewn datganiad iddo “gyfeirio at” rai pethau roedd wedi’u clywed am “y gymuned griced Asiaidd”, a’i fod yn ymddiheuro wrth Azeem Rafiq a’r gymuned ehangach.
“Rwyf wedi ymroi’n gryf i wneud criced yn gamp fwy cynhwysol,” meddai wedyn.
“Mae’n amlwg iawn nawr fod angen gwneud mwy o waith a byddaf yn gwneud popeth er mwyn dileu gwahaniaethu o’r gamp rwy’n ei charu, a’r gamp sydd wedi bod yn fywyd i fi ers 50 mlynedd.”