Mae tîm pêl-droed Cymru wedi sicrhau gêm ail gyfle gartref yng ngemau rhagbrofol Cwpan y Byd, ar ôl gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Gwlad Belg yn Stadiwm Dinas Caerdydd heno (nos Fawrth, Tachwedd 16).

Aeth Cymru ar ei hôl hi ar ôl 11 munud wrth i Kevin De Bruyne rwydo i’r ymwelwyr, ond fe wnaethon nhw daro yn ôl ar ôl 31 munud drwy Kieffer Moore.

Roedd Cymru heb eu capten Gareth Bale, oedd allan o’r gêm ar ôl ennill ei ganfed cap yn erbyn Belarws dros y penwythnos.

Doedd dim lle i Harry Wilson, tra bod Ethan Ampadu wedi’i wahardd, ac fe ddaeth Chris Mepham, Joe Morrell a Moore i mewn i’r unarddeg.

Gwnaeth Gwlad Belg chwe newid, gyda De Bruyne yn un o bum chwaraewr yn unig oedd wedi chwarae yn eu buddugoliaeth o 3-1 dros Estonia, canlyniad oedd wedi sicrhau eu lle yng Nghwpan y Byd yn Qatar.

Dim ond pwynt oedd ei angen ar Gymru i sicrhau’r ail safle fel bod ganddyn nhw’r fantais o chwarae gartref yn y gemau ail gyfle ym mis Mawrth.

Hanner cyntaf

Cafodd Cymru dipyn o fraw ym munudau agoriadol y gêm wrth i Divock Origi ergydio, ond cymerodd hi lai na 12 munud i’r ymwelwyr sgorio.

Cafodd ergyd Axel Witsel ei hatal yn y cwrt cosbi, ond tarodd De Bruyne chwip o ergyd heibio’r Danny Ward diymadferth yn y gôl.

Manteisiodd Gwlad Belg ar gryn dipyn o feddiant yn ystod yr hanner cyntaf, ond tarodd Cymru’n ôl gyda’u hergyd gyntaf ar ôl ychydig yn llai na 32 munud.

Camgymeriad amddiffynnol gan Arthur Theate greodd y cyfle oddi ar groesiad Dan James, wrth i Moore ergydio â’i droed chwith i unioni’r sgôr gyda’i wythfed gôl dros ei wlad.

Roedd siom i Gymru wedyn, serch hynny, wrth i gerdyn melyn Joe Morrell ei gadw allan o’r gêm ail gyfle pan ddaw honno ym mis Mawrth.

Bu bron i Wlad Belg adfer eu mantais pan darodd De Bruyne gic rydd i ymyl y cwrt cosbi, gyda Thorgan Hazard yn taro foli yn erbyn y postyn.

Byddai Cymru wedi bod yn ddigon bodlon erbyn yr egwyl, ac roedden nhw ychydig dros 45 munud o’r pwynt hollbwysig.

Ail hanner

Dechreuodd Cymru yr ail hanner yn gadarn, gyda Joe Morrell yn rhoi pwysau ar Koen Casteels yn y gôl.

Ac roedd egni Neco Williams ar yr asgell hefyd yn achosi cryn drafferth i Wlad Belg wrth iddo fe gyfuno’n gelfydd â Dan James.

Cafodd ymdrechion Williams eu gwobrwyo ag ergyd i’w ben pan darodd e yn erbyn Aaron Ramsey, y capten ar y noson.

Wrth i Wlad Belg geisio ffeindio’u ffordd unwaith eto, collon nhw ragor o fomentwm wrth ddod ag eilyddion i’r cae, ac roedd Cymru’n parhau i bwyso.

Cafodd ergyd Moore ei hatal, gyda Williams wedyn yn torri i mewn o’r asgell heibio’r eilydd Leander Dendoncker a tharo chwip o ergyd o 25 llathen, ond aeth ei ymdrech heibio’r postyn wrth iddi wyro i ffwrdd o’r golwr.

Roedd gan Gymru rai eiliadau nerfus yn niwedd y gêm, ond fe wnaethon nhw sefyll yn gadarn yn y pen draw.

Y gemau ail gyfle

Mae’r darlun o ran y gemau ail gyfle ychydig yn gliriach erbyn hyn, gyda’r enwau’n cael eu tynnu o’r het ymhen deng niwrnod.

Yn ogystal â Chymru, y timau eraill sydd wedi sicrhau gêm gartref fel detholion – ac felly yn methu chwarae yn erbyn Cymru – yw Portiwgal, yr Alban, yr Eidal, Rwsia a Sweden.

Mae hynny’n gadael chwe gwlad oddi cartref, sef Twrci, Gwlad Pwyl, Gogledd Macedonia, yr Wcráin, Awstria a’r Weriniaeth Tsiec.

O blith y 12 tîm, dim ond tri fydd yn cyrraedd Cwpan y Byd yn y pen draw.