Mae WillGriff John a Will Rowlands wedi cael eu rhyddhau o garfan rygbi Cymru ychydig ddyddiau cyn gêm olaf Cymru yng Ngemau’r Hydref.

Fe wnaeth prop pen tynn y Scarlets a chlo’r Dreigiau ddioddef ergydion i’r pen yn ystod gêm Cymru yn erbyn Fiji ddydd Sul (14 Tachwedd).

Ni fydd yr un o’r ddau’n chwarae gêm olaf Cymru yn yr ymgyrch yn erbyn Awstralia ddydd Sadwrn (20 Tachwedd).

O ran safle’r prop pen tynn, mae amheuaeth dros sefyllfa Tomas Francis hefyd wedi iddo yntau gael ergyd i’r pen ddydd Gwener diwethaf.

Mae’n parhau i fynd drwy’r prosesau ar gyfer dychwelyd i chwarae ar y funud.

Bydd penderfyniadau ynghylch Josh Adams ac Aaron Wainwright yn cael eu gwneud yn hwyrach.

Fe wnaeth Josh Adams anafu ei goes funudau cyn y gêm yr wythnos ddiwethaf, a chafodd Aaron Wainwright anaf i’w ysgwydd yn ystod y gêm yn erbyn De Affrica’r wythnos flaenorol.

Mae disgwyl i Wayne Pivac enwi’r tîm fydd yn wynebu Awstralia fory (18 Tachwedd).